Dedfryd o gyfnod amhenodol mewn ysbyty i fam am ladd ei mab saith oed yn Sir Benfro
Mae mam wedi cael ei dedfrydu i gyfnod amhenodol yn yr ysbyty am ladd ei mab saith oed yn Sir Benfro.
Bu farw Louis Linse yn Hwlffordd ar 10 Ionawr.
Fe blediodd Papaipit Linse, 43 oed, yn euog i ddynladdiad mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe ym mis Tachwedd.
Fe gafodd y cyhuddiad ei dderbyn gan Caroline Rees KC ar ran yr erlyniad.
Mewn galwad i’r gwasanaethau brys ar ôl y digwyddiad fe gyfaddefodd Linse iddi ladd ei mab a dweud wrth y sawl oedd yn delio â’r alwad ei bod “yn teimlo fel robot” ac nad oedd wedi gallu ei hatal ei hun.
Dywedodd meddyg wrth y llys ei fod yn credu ei bod yn debygol o ddioddef o sgitsoffrenia paranoiaidd.
Fe roddodd y Barnwr Paul Thomas KC orchymyn ysbyty amhenodol iddi yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener.
Dywedodd: “Wnaethoch chi ddim lladd eich mab Louis am eich bod yn berson drygionus.
"Bu farw oherwydd ar y pryd roeddech yn dioddef o salwch meddwl. Oni bai eich bod wedi bod mor sâl yr adeg honno, ni fyddai byth wedi digwydd a byddech yn parhau i fod yn fam dda, ofalgar a chariadus iddo.”
Ychwanegodd: “Roedd yr hyn a ddigwyddodd i (Louis) yn drasiedi ofnadwy ac rwy’n gwbl ymwybodol bod ei golli wedi bod yn loes annioddefol i lawer o bobl.
"Rwy’n mawr obeithio, fodd bynnag, y byddwn nhw'n deall y rhesymeg y tu ôl i’r gorchymyn."