Newyddion S4C

Faint o gynnydd fydd eich cyngor chi’n ei gael o’r gyllideb?

11/12/2024
arian

Mae cynghorau Cymru wedi cael gwybod faint o gynnydd mewn gwariant fyddwn nhw’n ei gael ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26 fel rhan o’r gyllideb sydd wedi ei chyflwyno gan Llywodraeth Cymru.

Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd sy’n gweld y cynnydd mwyaf o ran canran tra bod Sir Fynwy, Gwynedd, a Phowys yn gweld y cynnydd lleia’.

Bydd y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2025-26 yn cynyddu 4.3% ar draws Cymru o'i gymharu â'r flwyddyn gyfredol, meddai'r llywodraeth.

Dywedodd Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai y bydd yn “cymryd amser i gyllid cyhoeddus adfer” dan lywodraeth Lafur yn San Steffan.

“Mae ein setliad cyffredinol ar gyfer 2025-26 yn fwy nag £1 biliwn yn uwch nag y byddai wedi bod o dan Lywodraeth flaenorol y DU,” meddai.

“Fodd bynnag, ni all 14 mlynedd o gyllid cyhoeddus cyfyngedig gael ei gwrthdroi mewn un gyllideb yn unig.”

Ychwanegodd: “Rydym wedi bod trwy gyfnod hir o gyni yn y sector cyhoeddus gyda chynnydd yn y galw am brif wasanaethau, pandemig a chyfnod o chwyddiant anghyffredin.”

Dywedodd mai’r flaenoriaeth oedd diogelu aelwydydd hynny sy'n agored i niwed ac aelwydydd incwm isel.

Cyllid Allanol Cyfun (AEF) arfaethedig yr awdurdodau lleol yn 2025-26 mewn cannoedd o filoedd (£000) a chanran y cynnydd

Sir Fynwy - 133,704 – 2.8%

Gwynedd - 246,818 - 3.2%

Powys  - 250,184 - 3.2%

Sir y Fflint - 274,779 - 3.3%

Bro Morgannwg - 223,420 -3.4%

Ynys Môn  - 135,605 - 3.6%

Ceredigion - 143,938 - 3.6%

Sir Benfro - 232,966 - 3.6%

Conwy - 218,586 - 3.7%

Pen-y-bont ar Ogwr  - 276,640 - 4.0%

Sir Gaerfyrddin - 375,747 - 4.1%

Wrecsam  - 249,511 - 4.4%

Castell-nedd Port Talbot  - 306,217 - 4.4%

Caerffili - 373,980 - 4.5%

Sir Ddinbych - 215,222 - 4.7%

Abertawe  - 468,469 - 4.7%

Rhondda Cynon Taf - 521,279 - 4.7%

Torfaen - 192,215 - 4.7%

Blaenau Gwent - 154,532 - 4.8%

Merthyr Tudful - 133,148 - 5.1%

Caerdydd - 674,571 - 5.3%

Casnewydd - 329,311 - 5.6%

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.