Newyddion S4C

'Methu credu'r peth': Sioc seren Love Island o Ferthyr o weld twll mawr ger ei gartref

10/12/2024
Liam Reardon

Mae seren Love Island o Gymru wedi datgelu bod y twll mawr a ymddangosodd ym Merthyr Tudful y tu allan i gartref ei deulu.

Dywedodd Liam Reardon, 25, a enillodd y gyfres realiti ITV yn 2021 gyda'i gariad Millie Court, ei fod yn bwyta ei frecwast gyda'i deulu pan "ddiflannodd y wal flaen a'r gatiau i mewn i dwll mawr".

Fe suddodd rhan o'r ddaear ar ystad Nant Morlais yn ardal Pant ar ddechrau mis Rhagfyr.

Roedd yn rhaid i 30 o deuluoedd adael eu cartrefi yn yr ardal am resymau diogelwch.

"Rwy'n dal i fethu credu'r peth fy hun," meddai Reardon ar ei bodlediad Liam & Millie ddydd Mawrth.

"Fe wnaethon ni werthu ein cartref teuluol yn ddiweddar a symud i mewn i'r cartref hwn ychydig fisoedd yn ôl. Rydym wedi bod yn rhentu. Mae gennym ni nawr dwll anferth 60 troedfedd ar ein dreif.

"Y diwrnod cynt ro'n i wedi gyrru dros yr ardal yna lle roedd y twll mawr wedi ymddangos tua 11.00. Doedd y tarmac ddim wedi torri bryd hynny. Ges i alwad am 14.00 y prynhawn hwnnw i ddweud bod twll bach ar ddiwedd ein dreif. 

"O'r fan honno fe aeth pethau o ddrwg i waeth. Roeddem yn y tŷ fore Sul yn cael brecwast, ac yn sydyn iawn fe ddiflannodd y wal flaen a'r gatiau."

Dywedodd y Cymro fod yn rhaid iddo ef a'i deulu "bacio bag a jyst gadael".

Ers hynny, mae'r teulu wedi bod yn byw mewn Airbnb ac nid oes modd iddyn nhw ddychwelyd i'w cartref, meddai.

"Mae wedi cael ei wagio ac mae'n debyg ei fod yn mynd i gael ei ddymchwel," meddai.

"Rydyn ni'n parcio ein ceir lle roedd y twll wedi ymddangos - diolch byth na chafodd neb ei anafu. 

"Mae angen i ni ddod o hyd i gartref i symud i mewn iddo nawr."

Y gred yw mai glaw trwm wedi Storm Bert oedd wedi achosi'r difrod.

Fe ddychwelodd rhai o'r trigolion i'w cartrefi ddydd Llun er mwyn casglu dillad a nwyddau eraill. 

Maen nhw wedi bod yn aros mewn gwestai neu lety gwyliau ers i'r twll ymddangos. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.