Gêm gyfrifiadurol i hyrwyddo treftadaeth Gymreig
Mae corff treftadaeth Cadw yn cydweithio gyda gêm gyfrifiadurol Minecraft i gynyddu diddordeb mewn treftadaeth Gymreig.
Byd Minecraft Cadw fydd y fersiwn Gymraeg gyntaf erioed o Minecraft Education, ac fe gafodd ei lansio yng Nghastell Conwy.
Cafodd Minecraft ei ryddhau am y tro cyntaf yn 2011 gan y datblygwr gemau cyfrifiadurol o Sweden, Mojang Studios.
Gall y rhai sy'n chwarae'r gêm adeiladu eu bydoedd eu hunain ar ffurf blociau.
Adnodd addysgiadol ydy Minecraft Education sydd bellach ar gael yn y Gymraeg am y tro cyntaf.
Bwriad yr adnodd yw cynyddu diddordeb mewn treftadaeth Gymreig, ac annog dysgwyr a siaradwyr Cymraeg rhugl i ddefnyddio'r iaith.
Fersiwn dwyieithog Minecraft o Gastell Conwy yw'r cyntaf i ymddangos, ond bydd lleoliad newydd yn cael ei ychwanegu bob mis nes bod 20 o safleoedd eraill y mae Cadw yn gyfrifol amdanyn nhw'n cael eu cynnwys.
'Balch'
Bydd pob safle newydd yn cael ei gefnogi gan lansiad rhithwir a sesiynau hyfforddi i athrawon.
Bydd yr holl adnoddau'n cael eu cyhoeddi ar wefan adnoddau addysg Hwb.
Dywedodd Justin Edwards, cyfarwyddwr profiad dysgu Minecraft, ei fod yn "falch" o'r adnodd newydd.
"Mae Minecraft Education yn falch iawn o'r defnydd arloesol parhaus o Minecraft o fewn ystafelloedd dosbarth Cymru," meddai.
"Mae'r prosiect hwn, sy'n arbennig o bwysig i bwnc treftadaeth ddiwylliannol a gwyddoniaeth, yn dangos y gall dysgu ar sail gêm ddarparu profiadau cwricwlwm gafaelgar ac atyniadol sy'n berthnasol i Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru."