Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru yn colli yn erbyn Portiwgal
Mae Cymru wedi colli 3-2 yn erbyn Portiwgal yn eu gêm olaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Fawrth.
Roedd Cymru eisoes yn sicr o orffen ar waelod y grŵp ac fe fydd rhaid iddyn nhw chwarae gemau ail gyfle ym mis Mawrth er mwyn cadw eu lle yn Adran A Cynghrair y Cenhedloedd.
Mae hynny am iddyn nhw golli yn erbyn Norwy yn Oslo dros y penwythnos, ac oherwydd eu record yn erbyn Denmarc a Norwy. Roedd gan Ddenmarc naw pwynt a Norwy chwe phwynt cyn y gêm.
Fe chwaraeodd Portiwgal heb Cristiano Ronaldo, sydd wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.
Fe wnaeth Bellamy chwe newid i'r tîm a gollodd 3-1 yn erbyn Norwy ddydd Sadwrn, gyda Brooks, Colwill a Sheehan ymhlith y chwaraewyr a gafodd gyfle i ddechrau yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Inline Tweet: https://twitter.com/sgorio/status/2122808629711581521?a=BR4jronE8zGF7a1zqpw&s=20
Hanner cyntaf
Fe ddechreuodd tîm Craig Bellamy yr ornest yn hyderus, gan fwynhau cyfnodau da o feddiant yn erbyn un o dimau cryfaf Ewrop.
Fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn yr 11eg munud. Ar ôl i João Neves gipio’r bêl oddi ar Josh Sheehan, fe wnaeth Fernandes saethu heibio Danny Ward o du allan i’r cwrt cosbi.
Ond fe ddaeth ymateb sydyn gan Gymru. Ar ôl i ymdrech Harry Wilson gael ei harbed gan Diogo Costa, fe gasglodd Rubin Colwill y bêl cyn ei gosod ar gyfer Brooks, a sgoriodd gyda’i gyffyrddiad cyntaf i gornel y rhwyd.
Bu'n rhaid aros am wiriad gan y dyfarnwr fideo, VAR, cyn cadarnhau'r gôl, wrth i swyddogion wirio am gamsefyll yn ystod yr ymosodiad.
Roedd y dorf yng Nghaerdydd wrth eu boddau pan gafodd y gôl ei chaniatáu.
Daeth cyfle gwych i Bortiwgal adennill y blaen ar ôl 21 munud, ond fe darodd Francisco Trincão y trawst o bellter agos, er i'r faner godi am gamsefyll.
Yn y 31ain munud, fe gafodd Wilson gyfle arall ar ôl gwaith da gan Sorba Thomas ar yr asgell chwith, ond fe darodd ei ergyd yn syth at Costa yng ngôl Portiwgal.
Ychydig cyn ail gôl Cymru, fe gafodd João Neves gyfle i roi Portiwgal ar y blaen, ond cafodd ei ergyd ei blocio cyn i Ward gasglu’r bêl.
Ac eiliadau'n ddiweddarach, fe aeth Cymru ar y blaen am y tro cyntaf yn yr ornest wrth i Thomas redeg y tu ôl i amddiffynwyr Portiwgal, cyn taro’r bêl yn hyderus i gornel isaf y rhwyd.
Byrhoedlog oedd y dathlu i'r cefnogwyr cartref, wrth i Neto unioni’r sgôr yn y 43ain munud.
Ail hanner
Fe wnaeth Bellamy newid ar yr egwyl, gyda Ben Cabango yn cymryd lle Joe Rodon yng nghanol yr amddiffyn.
Fe gafodd Cabango gerdyn melyn yn fuan wedyn am drosedd ar Gonçalo Ramos, cyn i Ward arbed ergyd gan Vitinha.
Cafodd ergyd Dan James ei blocio ar ôl gwaith da gan Thomas, cyn i Wilson saethu dros y trawst o du allan i’r cwrt cosbi.
Fe ddaeth Neto yn agos at sgorio eto wrth daro’r postyn yn y 59fed munud.
Fe ddaeth Brennan Johnson ac Aaron Collins ymlaen yn lle James a Brooks, gyda Collins yn ennill ei gap cyntaf yn 29 oed.
Yn y 68ain munud, fe wnaeth Costa arbed peniad Cabango ar y llinell ar ôl cic gornel.
Ond fe aeth Portiwgal ar y blaen ddau funud yn ddiweddarach. Fe dorrodd yr eilydd Carlos Forbs i mewn o’r dde cyn taro ergyd isel heibio Ward i gornel y rhwyd.
Roedd Cymru felly ar ei hôl hi o 3-2 gyda’r gêm wedi cyrraedd yr 81ain munud.
Roedd llygedyn o obaith i Gymru yn y cyfnod olaf pan gafodd Pedro Neto ei anfon o’r cae ar ôl derbyn ail gerdyn melyn yn y 74ain munud.
Gorfododd Connor Roberts i Costa arbed yn y munud olaf o’r 90, a cafodd ymdrech arall gan Roberts ei blocio yn ystod yr amser ychwanegol, cyn i Wilson saethu heibio’r postyn.
Ond er gwaethaf y pwysau, fe lwyddodd deg dyn Portiwgal i ddal eu gafael ar eu mantais, gan adael Cymru i orffen eu hymgyrch gyda cholled o 3-2.
Llun: Huw Evans