Llifogydd Pontypridd: Eisteddfod Genedlaethol yn trefnu noson codi arian
30/11/2024
Wedi i lifogydd daro Pontypridd unwaith eto, yn ystod Storm Bert y penwythnos diwethaf, mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi eu bod yn trefnu noson codi arian yng Nghlwb y Bont yn y dref fis Rhagfyr.
Bron bedwar mis ers i'r Brifwyl ymweld â'r dref, dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol bod y noson yng nghwmni Huw Chiswell a Catrin Herbert ar 14 Rhagfyr yn gyfle i godi arian wedi'r holl ddifrod yn yr ardal:
"Y dilyn y newyddion trist o ddifrod i ardal Pontypridd yn sgîl y llifogydd, dyma noson i godi arian i’r gronfa leol i helpu’r gymuned i ddod 'nôl ar eu traed.
"Ar ôl i gymuned ehangach Rhondda Cynon Taf ein croesawu ni mor dwymgalon fis Awst, dyma gyfle i ni ddiolch iddynt drwy fwynhau noson yng nghwmni Huw Chiswell a Catrin Herbert.
"Dewch yn llu i Bontypridd am y diwrnod, i fwyta, siopa ac i gloi’r noson yng Nghlwb y Bont.
Dywedodd Clwb y Bont, sy'n trefnu'r digwyddiad ar y cyd â'r Eisteddfod, eu bod yn "edrych ymlaen at gydweithio gyda'r Eisteddfod" wrth drefnu'r noson.
Cafodd nifer o ardaloedd yn ardal yr Eisteddfod Genedlaethol eu taro y penwythnos diwethaf, yn cynnwys Parc Ynysangharad a'r Lido, lle roedd y maes fis Awst, a Ffordd Berw a oedd yn arwain i'r maes carafannau a Maes B.
Achosodd y llifogydd ddifrod i rai cannoedd o gartrefi a busnesau yn y dref, ac mae'r gwaith glanhau a chyfri'r gost yn parhau.
Roedd Pontypridd o dan ddŵr hefyd yn 2020 yn ystod Storm Dennis.