Cwpan Nathaniel MG: Caerdydd ac Aberystwyth yn brwydro am le yn y rownd derfynol
Dros y penwythnos bydd pedwar clwb yn cystadlu am le yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG.
Ddydd Sadwrn, bydd Aberystwyth yn croesawu tîm ifanc Caerdydd i Goedlan y Parc, cyn i’r Barri herio’r Seintiau Newydd brynhawn Sul.
Yn ogystal â’r gemau cwpan, bydd Y Drenewydd yn wynebu Cei Connah mewn gêm gynghrair ar ôl i’r ornest rhwng y ddau dîm gael ei gohirio yr wythnos diwethaf oherwydd y tywydd.
Aberystwyth v Caerdydd | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar Goedlan y Parc brynhawn Sadwrn bydd Aberystwyth a Chaerdydd yn anelu i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG am y tro cyntaf yn eu hanes.
Fe gyrhaeddodd Aberystwyth y rownd gynderfynol yn nhymor 2019/20 cyn colli o 2-1 yn erbyn STM Sports.
Flwyddyn diwethaf oedd y tro cyntaf i Gaerdydd gymryd rhan yn y gystadleuaeth ac fe gollodd yr Adar Gleision ifanc yn erbyn Abertawe yn y drydedd rownd, felly dyma eu rhediad gorau yn y cwpan.
Mae Aberystwyth ar waelod y domen yn yr uwch gynghrair ar ôl colli 13 o’u 17 gêm gynghrair hyd yma, gan sgorio dim ond 14 o goliau.
Er hynny, mae’r Gwyrdd a’r Duon wedi curo Bae Colwyn, Llandudno a Chei Connah i gyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth hon.
Mae Caerdydd yn mwynhau tymor cadarn yn Nghynghrair Datblygu y De dan arweiniad cyn-chwaraewr y clwb Darren Purse, gan ennill saith o’u 10 gêm gynghrair hyd yma ac mae’r clwb yn brwydro tua’r brig gyda timau dan 21 Bournemouth a Charlton.
Bu'n rhaid i Gaerdydd drechu Lido Afan, Pontypridd, Merthyr a Met Caerdydd i gyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth eleni.
Blaenwr 19 mlwydd oed Caerdydd, Michael Reindorf Junior yw prif sgoriwr Cwpan Nathaniel MG y tymor hwn ar ôl taro saith gôl mewn pedair gêm hyd yma, yn cynnwys hatric yn yr ail rownd yn erbyn Pontypridd.
Cyn-reolwr Y Barri, Gavin Chesterfield yw Pennaeth Academi Caerdydd, ac mae’n siwr y byddai’n achlysur arbennig iddo fo pe bae’r Adar Gleision ifanc yn gallu camu i’r rownd derfynol a wynebu ei gyn-glwb.
Y Drenewydd (9fed) v Cei Connah (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Roedd yr eira a’r rhew yn drech nag ymdrechion Y Drenewydd i gynnal y gêm hon y penwythnos diwethaf, ac felly mi fydd y clybiau yn rhoi cynnig arall arni ddydd Sadwrn yma.
Mae’r Drenewydd wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhump o’r chwe tymor diwethaf, ac er iddyn nhw orffen yn 7fed yn nhymor 2020/21 fe aethon nhw ymlaen i ennill y gemau ail gyfle a chamu i Ewrop ar ddiwedd yr ymgyrch honno.
Ond tydi’r sefyllfa ddim yn edrych mor addawol eleni gan bod y Robiniaid ond wedi ennill un o’u naw gêm gynghrair ddiwethaf gan syrthio o’r trydydd i’r nawfed safle.
Callum McKenzie sydd wedi cymryd yr awennau ers i Scott Ruscoe gael ei ddiswyddo, ac yn ei unig gêm wrth y llyw hyd yma fe gollodd Y Drenewydd o 3-1 yn erbyn Aberystwyth.
Mae Cei Connah yn hafal ar bwyntiau gyda’r Drenewydd, ond tra bo’r hwyliau’n isel ar Barc Latham, mae’r canlyniadau wedi gwella i Gei Connah yn ddiweddar.
Enillodd y Nomadiaid o 2-1 yn Nhrefelin bythefnos yn ôl i selio eu lle ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru, a honno oedd eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref ers mis Awst.
Mae’r ddwy ornest ddiwethaf rhwng y timau yma wedi gorffen yn gyfartal, ond dyw’r Drenewydd heb ennill gartref yn erbyn Cei Connah ers wyth mlynedd gan golli chwe gwaith a chael pedair gêm gyfartal ar Barc Latham ers hynny.
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ͏✅❌❌➖❌
Cei Connah: ͏➖✅❌✅❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru