Newyddion S4C

Cymru i osod trwyddedau gorfodol ar gyfer tatŵio

29/11/2024
Tatŵ

Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i osod trwyddedau gorfodol ar gyfer triniaethau fel tatŵio, tyllu (piercings) ac aciwbigo (acupucture).

O ddydd Gwener ymlaen, bydd angen i unigolion neu fusnesau sy'n gyfrifol am driniaethau tatŵio, tyllu, aciwbigo electrolysis neu golur lled-barhaol (semi-permanent) gwblhau cwrs atal a rheoli heintiau ar gyfer triniaethau arbennig.

Mae rhai busnesau sydd yn cynnig y fath driniaethau yn cefnogi'r mesurau.

Dywedodd Ffion Haf Hughes, perchennog Little Wren Beauty & Aesthetics yng Nghaernarfon: "Mae'r cynllun trwyddedu  nid yn unig yn gwella safonau'r diwydiant drwy sicrhau lefel o ddiogelwch a phroffesiynoldeb, ond mae hefyd yn ennyn mwy o hyder ymhlith ein cleientiaid.

"Drwy gadw at y rheoliadau hyn, rydym yn gwella ein hygrededd a'n hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel, a fydd yn elwa'r busnes a'n cleientiaid gwerthfawr yn y pen draw."

Ychwanegodd Marie Lowe, perchennog Miss Rie's Tattoo Studio yng Nghasnewydd: "Mae'n newyddion da i'r diwydiant triniaethau arbennig. 

"Bydd y mesurau yn bwysig wrth sicrhau bod pob ymarferydd ledled Cymru yn gweithredu yn yr un ffordd ac yn sicrhau ein cleientiaid eu bod yn cael triniaeth gan berson trwyddedig mewn amgylchedd diogel a glân."

Mae'r trwyddedau newydd yn rhan o fesurau newydd gan Lywodraeth Cymru i "leihau'r risgiau o ran hylendid a diogelwch" sy'n gysylltiedig â thriniaethau o'r math yma.

Yn ogystal â hyn, rhaid i'r safleoedd a cherbydau lle mae'r triniaethau yn cael eu cynnal gyrraedd safonau diogelwch llym, ymhlith meini prawf eraill.

Bydd angen i dros 4,000 o bobl, a 2,000 o safleoedd  yng Nghymru sicrhau fod ganddyn nhw drwydded addas o dan y cynllun newydd.

Rhaid i bob unigolyn wneud cais am drwydded neu dystysgrif gymeradwyo safle neu gerbyd gan ei awdurdod lleol.

Bydd modd i'r unigolion sydd wedi'u cofrestru ar hyn o bryd barhau i weithredu tra bydd eu ceisiadau am drwydded neu dystysgrif gymeradwyo yn cael eu prosesu.

'Diogelu cleientiaid'

Bydd cofrestr genedlaethol ar gael i'r cyhoedd, ac fe fydd yn cynnwys pob trwydded ddilys yng Nghymru. 

Ond rhybuddiodd Llywodraeth Cymru y bydd yn cymryd sawl mis cyn i'r gofrestr fod yn gynhwysfawr.

Dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, Keith Reid bod hwn yn gam bwysig at ddiogelu cleientiaid. 

"Mae'r cynllun trwyddedu newydd hwn yn rhoi sicrwydd pwysig i unrhyw un sy'n ystyried cael triniaeth aciwbigo, electrolysis, tyllu'r corff, tatŵio neu golur lled-barhaol," meddai.

"Mae'r cynllun trwyddedu gorfodol yn sicrhau bod cleientiaid ac ymarferwyr yn cael eu diogelu, ac rwy'n falch bod y mesurau wedi cael eu croesawu'n eang gan y diwydiant.

"Rydym am weld y triniaethau arbennig hyn yn cael eu rhoi mewn ffordd ddiogel a glân ac mewn amgylcheddau priodol, a bydd y cynllun trwyddedu yn rhoi sicrwydd bod y safonau priodol yn cael eu bodloni.

"Bydd gofynion y cynllun yn galluogi awdurdodau lleol i ddefnyddio dull cadarn a chyson o reoleiddio ledled Cymru, gan gynnwys pwerau mwy effeithiol i ddelio ag unrhyw un sy'n gweithredu'n anghyfreithlon."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.