Carchar i ddyn o dde Cymru am drosedd derfysgaeth
Mae dyn o Risga ger Casnewydd wedi ei ddedfrydu i ddwy flynedd a chwe mis dan glo am drosedd dan y ddeddf derfysgaeth.
Fe ymddangosodd Daniel Niinmae yn Llys y Goron Caerwynt (Winchester) ddydd Iau i gael ei ddedfrydu ar ôl iddo bledio'n euog o feddu ar ddogfen oedd yn debygol o fod o ddefnydd i berson a oedd yn paratoi gweithred derfysgol.
Roedd hynny’n groes i Adran 58 Deddf Terfysgaeth 2000.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod ymchwiliad manwl wedi ei gynnal gan Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru (PGC).
Ychwanegodd Ditectif Brif Arolygydd Leanne Williams, Pennaeth Ymchwiliadau Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru: “Rydym yn croesawu’r ddedfryd a roddwyd gan y llys heddiw.
Mae hyn yn cloi ymchwiliad manwl, trylwyr a chymhleth dros fisoedd lawer gan PGC, gyda chymorth ein cydweithwyr o Heddlu Gwent.”