C'mon Midffîld: Un o wisgoedd eiconig y gyfres wedi’i chanfod dros dri degawd yn ddiweddarach
C'mon Midffîld: Un o wisgoedd eiconig y gyfres wedi’i chanfod dros dri degawd yn ddiweddarach
Mae'n gyfnod y Nadolig ac mae'n dymor y panto.
O, na, 'di ddim. O, ydy, mae hi!
Wrth i griw Theatr Fach Llangefni baratoi at y panto daethon nhw ar draws dilledyn go arbennig.
"Ddaru siop wisg ffansi leol benderfynu gwerthu ei gwisgoedd, bod nhw'n dod i ben ar ôl 35 mlynedd.
"Dyna ni'n neidio ar y cyfle a tynnu lluniau ac ar ôl ychydig o ddyddiau, rhannu nhw ar grŵp y cast a gofyn "Ddylswn i fynd yn ôl a phrynu'r ddwy arall?"
"Dyma un o'r cast yn mynd, "Mam bach! "Wyt ti'n sylwi bod chdi 'di gadael ffrog Wali Tomos ar ôl!
"Dyma fi'n mynd yn syth i'r car a mynd i brynu'r ffrog eiconig ac mae'n bwysig bod hi'n cael cartref yma yn Theatr Fach."
Cafodd y ffrog ei gwisgo mewn pennod o gyfres C'mon Midffild yn 1992 gan yr actor, Mei Jones.
Actor oedd yn fwyaf adnabyddus am bortreadu'r eicon, Wali Thomas.
Mae'r bennod hon yn un o nifer sydd wedi dal dychymyg llawer o Gymry.
"Buasai Mei Jones wrth ei fodd ac yn falch bod rhywun wedi adnabod y ffrog ac wedyn cadarnhau taw ei ffrog o oedd.
"'Sdim dwywaith y bysa'n falch o hyn. "Dw i'n cofio bod yn amheus o wneud y bennod.
"Mae gofyn i actorion proffesiynol actio fel tasen nhw ddim yn gallu actio yn beryg bywyd achos maen nhw'n mynd dros ben llestri ac yn actio'n wirion.
"Dw i'n cofio cael y drafodaeth. Nid fi'n sydd i ddeud os wnaethon ni lwyddo neu beidio.
"Dw i'n credu bod yr actorion wedi gwneud eu gwaith yn ddigon da."
Beth yw hanes y ffrog a sut ddaeth hi i fodolaeth?
"We threw fabrics together that we had and just started making. There's part of me in this.
"Most of the things are one-offs and there's never a repeat of it. A lot of me has gone with everything."
I un aelod o'r cast, mae'n banto arbennig eleni wrth iddo baratoi i wisgo ffrog C'mon Midffild.
"Bydda i'n gwisgo'r ffrog yn y panto eleni. Dw i 'di bod allan o banto ers sawl blwyddyn.
"Dw i'n dod nôl a ffeindio bod fi'n gwisgo ffrog Walter Tomos o 1992. Mae'n fraint mawr a dw i wir yn edrych ymlaen."
"Dw i mor falch bod hi yma yn Theatr Fach a bod hi'n saff. Dw i'n gobeithio cael glass cabinet idd .i'w harddangos hi i bawb gael ei gweld hi. Mae'n bwysig i ni fel cast."
Degawdau o guddio mewn siop wisg ffansi ond bellach, mae'r trysor yma o gyfres sy'n golygu cymaint yn cael gweld golau dydd unwaith eto.