Môn: Dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad yn Llanfairpwll
Mae dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn Llanfairpwll ar Ynys Môn.
Cafodd heddlu'r gogledd eu galw i wrthdrawiad rhwng Peugeot 107 a char pick-up oedd wedi ei barcio am 07:00 ar 18 Tachwedd.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Caergybi ger garej Tyn Lon.
Fe gafodd y dyn yn ei 80au ei gludo i Ysbyty Gwynedd, ond bu farw ddydd Llun.
Dywedodd y Rhingyll Emlyn Hughes o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol bod Heddlu Gogledd Cymru yn chwilio am dystion i'r gwrthdrawiad.
"Dwi'n erfyn ar unrhyw un oedd wedi gweld y gwrthdrawiad a heb siarad efo ni eto, i wneud hynny cyn gynted â phosib," meddai.
"Rydym hefyd yn awyddus i ganfod gyrrwr, rydym yn credu oedd yn y Volvo 40 lliw arian oedd yn teithio i'r cyfeiriad arall wedi'r gwrthdrawiad, gan ei fod yn bosib bod ganddyn nhw wybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r llu ar eu gwefan neu drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 24000975895.