Beirniadu penderfyniad i gau Swyddfa'r Post Cricieth yn y flwyddyn newydd
26/11/2024
Beirniadu penderfyniad i gau Swyddfa'r Post Cricieth yn y flwyddyn newydd
Mae aelod seneddol wedi beirniadu'r penderfyniad i gau Swyddfa'r Post yn nhref Cricieth yn y flwyddyn newydd.
Dywedodd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, bod cymunedau yng Ngwynedd yn wynebu "methiannau difrifol a diffyg cynllunio strategol" yn narpariaeth gwasanaethau Swyddfa’r Post, yn dilyn y newyddion y bydd y gangen yng Nghricieth yn cau fis Ionawr.
Cyhoeddodd Swyddfa'r Post ar ddechrau'r mis fod dyfodol swyddfeydd post yng Nghaernarfon, Port Talbot, Merthyr Tudful, a Phen-y-bont ar Ogwr yn y fantol.
Mae cau Swyddfa Bost Cricieth â goblygiadau tu hwnt i'r dref ei hun medd Ms Saville Roberts, gan fod y Postfeistr presennol hefyd yn gweithredu gwasanaeth cymunedol wythnosol â fan i gyfanswm o 25 o gymunedau ar draws Gwynedd.
'Ergyd arall'
Dywedodd Liz Saville Roberts AS: "Mae hyn yn ergyd arall i'n cymunedau gwledig, rhyw wythnos yn unig ers i Swyddfa'r Post gyhoeddi bod eu cangen Caernarfon dan fygythiad.
"Mae canghennau gwledig fel Cricieth yn gwasanaethu ardal llawer ehangach na'r dref ei hun ac o ystyried fod gwasanaethau bancio wyneb yn wyneb eraill yn cau, mae'r angen i gynnal presenoldeb Swyddfa’r Post yn hanfodol bwysig.
"Mae'r gwasanaeth hwn yn achubiaeth i lawer o gymunedau yn fy etholaeth i, gan alluogi pobl i gael mynediad i wasanaethau Swyddfa'r Post yn agos at adref.
"Ar hyn o bryd mae 25 o gymunedau ar draws Meirionnydd, Dwyfor, ac Arfon yn elwa o'r gwasanaeth symudol hwn, ond eto does dim sicrwydd y bydd hyn yn parhau unwaith y bydd cangen Cricieth yn cau.
'Mae pobl sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn, yn enwedig yr henoed a'r rhai heb drafnidiaeth, angen sicrwydd y bydd y gwasanaethau hyn yn dal i fod yno ar eu cyfer yn y flwyddyn newydd."
Ychwanegodd: "Rwy'n gobeithio y gellir dod o hyd i ateb sy'n cynnal gwasanaethau Swyddfa'r Post yng Nghricieth."
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad diweddar am ddyfodol pedair swyddfa bost yng Nghymru, dywedodd Gweinidog Busnes Llywodraeth y DU, Gareth Thomas nad oedd unrhyw benderfyniad terfynol wedi ei gymryd am y cau, a bod y llywodraeth yn disgwyl Swyddfa'r Post i ymgynghori'n llawn gyda phostfeistri ac undebau cyn gwneud penderfyniadau am swyddfeydd unigol.
Ychwanegodd bod y llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi Papur Gwyrdd am ddyfodol tymor hir Swyddfa'r Post.
Llun: Google