Newyddion S4C

Llifogydd yng nghartre'r cyn Aelod o'r Senedd, Neil Hamilton

25/11/2024
Llifogydd / Neil Hamilton

Fe gafodd cartref y cyn Aelod o'r Senedd, Neil Hamilton, ei daro gan lifogydd yn ystod Storm Bert.

Mae fideo a gafodd ei rannu gan ei wraig Christine Hamilton ar gyfryngau cymdeithasol, yn dangos dwy fodfedd o ddŵr ar lawr eu cegin.

Mae’r lluniau yn dangos Mr Hamilton, cyn AS UKIP ym Mae Caerdydd, yn ceisio gwagio’r dŵr i mewn i fwced, yn eu cartref yn Hullavington, Wiltshire.

Dywedodd Ms Hamilton bod “y dŵr wedi llifo i mewn drwy’r drws cefn.”

“Roedden ni’n gwagio’r dŵr yn ddi-baid am dair awr, er mwyn ceisio cadw lefel y dŵr yn is,” dywedodd Ms Hamilton.

“Roedd ‘na ddwy fodfedd yn y gegin, a phe byddwn ni wedi stopio gwneud am ddwy eiliad, byddai’r dŵr wedi dringo yn uwch fyth.”

Roedd ffrindiau wedi ceisio eu helpu drwy ddod â phwmp i sugno'r dŵr allan, ond roedd hi’n “amhosib” cyrraedd y tŷ oherwydd y llifogydd.

“Ni yw’r rhai ffodus, wel, anffodus mewn ffordd,” meddai Ms Hamilton.

“Ry’n ni wedi bod yma ers 20 mlynedd a ‘den ni byth wedi cael llifogydd o’r blaen. Ond ry’n ni wedi cael gymaint o law dros yr wythnosau a misoedd diwethaf, a phan gyrhaeddodd Bert, doedd dim ffordd o ymdopi. Dechreuodd y dŵr lifo i mewn o’r tir.

“Bydd angen i ni symud rhywfaint o ddodrefn rhag iddynt bydru, ond yn ffodus, mae pethau yn dechrau sychu.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.