Newyddion S4C

Cynghrair y Cenhedloedd: Dyrchafiad i Gymru ar ôl ennill eu grŵp

Cymru.png

Mae Cymru wedi sicrhau dyrchafiad i haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd ar ôl ennill eu grŵp wedi buddugoliaeth yn erbyn Gwlad yr Iâ a Thwrci yn colli yn erbyn Montenegro nos Fawrth. 

Er mwyn ennill y grŵp, roedd angen i Gymru guro Gwlad yr Iâ yng Nghaerdydd a Thwrci i golli yn erbyn Montenegro. 

Fe enillodd tîm Craig Bellamy o 4-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda Thwrci yn colli yn erbyn Montenegro o 3-1. 

Mae Cymru bellach yn gorffen ar frig grŵp B4, o flaen Twrci sydd yn gorffen yn yr ail safle. 

Mae hyn yn golygu fod Cymru bellach yn codi i haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd, sef Cynghrair A.

Mae dyrchafiad i'r haen uchaf yn golygu fwy neu lai yn sicr y bydd yna gêm ail-gyfle i Gymru gyrraedd Cwpan y Byd 2026. 

Roedd pedwar newid i'r tîm a gafodd gêm gyfartal yn erbyn Twrci, gyda Danny Ward, Ben Cabango, Daniel James a Liam Cullen yn dechrau yn lle Karl Darlow, Connor Roberts, Sorba Thomas a Jordan James.

Hanner cyntaf

Gwlad yr Ia ddechreuodd gryfaf yn y munudau agoriadol gyda chic rydd i'r ymwelwyr cyn i Johannesson ergydio a gorfodi arbediad gan Danny Ward.

Ychydig funudau yn ddiweddarch, sgoriodd yr ymwelwyr y gôl gyntaf gydag ergyd isel gan Gudjohnsen.

Fe gafodd Cymru'r cyfle i gael y bêl i fewn i'r cwrt cosbi gyda chic rydd gan Harry Wilson ar ôl 18 munud, gyda'r symudiad yn arwain at gic gornel gyntaf y gêm i Gymru ond parhau ar ei hôl hi oedd hanes Cymru.

Fe ddechreuodd Cymru hawlio fwy o feddiant ar y bêl wrth i'r hanner cyntaf fynd yn ei flaen, gyda Wilson a Johnson yn cydweithio i lawr yr asgell.

Daeth cyfle Cymru i wneud y gêm yn gyfartal wedi 32 munud o chwarae, gyda Liam Cullen yn penio o groesiad Brennan Johnson i sgorio ei gôl ryngwladol gyntaf. 

Ar ddiwedd yr hanner cyntaf, Liam Cullen oedd y seren i Gymru unwaith eto ar ôl manteisio a sgorio wedi i ergyd Dan James gael ei arbed gan golwr Gwlad yr Iâ.

Ail hanner

Fel yn yr hanner cyntaf, Gwlad yr Iâ ddechreuodd gryfaf ar ddechrau'r ail hanner. 

Ond llwyddodd Cymru i wella wrth i'r hanner fynd yn ei flaen gyda Ben Davies a Ben Cabango yn dod yn agos at ychwanegu at fantais Cymru. 

Wedi 65 munud o chwarae, daeth Joe Allen ymlaen i Gymru, gyda Mark Harris yn gadael y cae. 

Yn fuan wedyn, roedd pas slic Liam Cullen tuag at Brennan Johnson yn berffaith, gydag ymosodwr Tottenham Hotspur yn ymestyn mantais Cymru i 3-1. 

Yr un oedd y sgôr ym Montenegro erbyn hyn, gyda'r tîm cartref yn ennill o 3-1 yn erbyn Twrci, gan olygu mai Cymru fyddai'n gorffen ar frig y grŵp fel roedd pethau yn sefyll.

Roedd Cymru yn mynd o nerth i nerth, gyda Harry Wilson yn ergydio o bell i roi Cymru ar y blaen o 4-1.

4-1 oedd hi ar ddiwedd y 90 munud i Gymru, a gyda Thwrci yn colli yn erbyn Montenegro, mae hynny yn golygu mai Cymru sydd yn gorffen ar frig y grŵp.

Mae Cymru bellach yn dychwelyd i Gynghrair A Cynghrair y Cenhedloedd, gyda phosibilrwydd go iawn y bydd tîm Craig Bellamy yn gallu sicrhau gêm ail-gyfle ar gyfer Cwpan y Byd ar sail eu perfformiad yn y gystadleuaeth hon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.