Coeden Nadolig o Bowys wedi ei dewis ar gyfer Rhif 10 Downing Street
Coeden Nadolig o Bowys sydd wedi cael ei dewis i fod y tu allan i Rif 10 Downing Street eleni.
Mae cwmni Evergreen Christmas Trees yn cael ei redeg gan y teulu Reynolds ar Fferm Black House yn Nhrefyclo, ac fe fydd un o'u coed y tu allan i gartref Prif Weinidog y DU dros y Nadolig.
Fe gafodd y cwmni ei enwi'n Bencampwr Tyfwr Coed Nadolig y Flwyddyn eleni.
Mae'r cwmni yn aelod o Rwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio, sydd yn darparu dyddiau hyfforddiant, ymweliadau astudio ac opsiynau dysgu ar gyfer y farchnad tyfu coed Nadolig.
Fe fydd y goeden yn cael ei gosod yn gynnar ym mis Rhagfyr.
Mae'r cwmni yn gobeithio ymweld â Downing Street yn mis Rhagfyr hefyd, ac fe fydd yr ymweliad yn cynnwys taith o amgylch y tŷ.