Ben Davies: Gêm 'anodd' ond Cymru yn 'hyderus'
Ben Davies: Gêm 'anodd' ond Cymru yn 'hyderus'
Mae gêm anodd yn wynebu Cymru nos Fawrth, yn ôl Ben Davies. Er hynny mae'r capten yn hyderus bod gwersi wedi eu dysgu ar ôl i'r Cymry ildio'u mantais yn erbyn Gwlad yr Iâ oddi cartref fis Hydref.
Ar ôl brwydro'n galed i ennill pwynt yn erbyn Twrci nos Sadwrn, mae pêl-droedwyr Cymru yn paratoi i wynebu Gwlad yr Iâ yn Stadiwm Dinas Caerdydd yng ngêm olaf Cynghrair y Cenhedloedd.
Roedd Cymru ar y blaen o 2-0 ar hanner amser, gyda goliau gan Brennan Johnson a Harry Wilson. Ond llwyddodd Logi Tómasson i sgorio dros Wlad yr Iâ ugain munud cyn diwedd y gêm. Tair munud yn ddiweddarach, sgoriodd gôl geidwad Cymru, Danny Ward i'w rwyd ei hun wedi iddo geisio rhwystro ymgais arall gan Tómasson.
2-2 oedd y sgôr terfynol.
"Wy’n credu gallwn ni gymryd lot o hyder o’r gem mas ‘na," meddai capten Cymru, Ben Davies.
"O’n ni wedi dechre’n dda mas ‘na ac o’n ni ar ben y gêm, falle o'n i'n gallu cael cwpl mwy.
"Ond mae’n dangos bod rhaid i ni bod ar e, am 90 munud.
"Ni’n gwybod beth o'n nhw wedi newid yn yr ail hanner a dwi’n siŵr bod nhw wedi dysgu wrth y 45 cynta’.
"Felly, gêm anodd eto ond un ni wedi bod yn paratoi am nawr a ni’n teimlo’n mwy barod," ychwanegodd
Ar hyn o bryd, mae Twrci ar frig y grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd gydag 11 pwynt. Cymru sydd yn ail gyda 9 bwynt, Gwlad yr Iâ yn y trydydd safle gyda 7 pwynt a Montenegro ar waelod y tabl heb yr un pwynt.
Er mwyn i Gymru ennill y grŵp, byddai angen curo Gwlad yr Iâ a byddai hefyd angen i Dwrci golli yn erbyn Montenegro.
Drwy ennill y grŵp, byddai modd ennill dyrchafiad i haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd yn awtomatig.
Oni bai y bydd sioc enfawr, a Montenegro yn llwyddo i guro Twrci, mae'n bur debyg y bydd Cymru yn gorffen yn ail yn y tabl, os y llwydda tîm Craig Bellamy i ennill neu sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Gwlad yr Iâ.
Pe bai hynny yn digwydd, yna'r gemau ail gyfle fyddai llwybr nesaf Cymru, er mwyn ceisio cyrraedd haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd.
Pe bai Cymru yn colli yn erbyn Gwlad yr Iâ, ac yn gorffen yn y trydydd safle, yna byddai angen brwydro i aros yn yr ail haen. Byddai hynny yn digwydd trwy'r gemau ail gyfle.
Llun: Asiantaeth Huw Evans