Nifer yn ei phlaid 'yn anhapus gydag arweinyddiaeth Jane Dodds'
Mae cyn-ymgeisydd ac aelod o bwyllgor gwaith canolog y Democratiaid Rhyddfrydol, Gwynoro Jones, wedi dweud bod nifer o aelodau'r blaid yng Nghymru yn anhapus gyda'u harweinydd Jane Dodds.
Daw ei sylwadau wedi i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Syr Ed Davey awgrymu y dylai Ms Dodds ystyried ymddiswyddo ar ôl gwneud "camgymeriad difrifol" wrth ymdrin ag achos o gamdriniaeth rhyw honedig tra’n gweithio i Eglwys Loegr.
Daeth adroddiad yn 2021 i’r casgliad fod Ms Dodds wedi gwneud camgymeriad drwy beidio â threfnu cyfarfod i drafod achos o gamdriniaeth rhyw honedig gan esgob.
Cafodd yr adroddiad, Betrayal of Trust, ei gyhoeddi yn dilyn ymchwiliad i gamdriniaeth rhyw hanesyddol honedig gan gyn-Esgob Caer, Hubert Victor Whitsey.
Mewn ymateb i sylwadau Mr Davey, dywedodd Ms Dodds bod aelodau ei phlaid wedi "mynegi eu hyder yn fy arweinyddiaeth".
'Bydd yn rhaid iddi ymddiswyddo'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Llun, dywedodd Gwynoro Jones fod Syr Ed Davey yn "berffeth iawn i ddweud be' oedd e'n ddweud".
"Dw i'n deall bod rhai yn y parti yng Nghymru yn anghytuno gydag ef, ond fe ddigwyddodd hyn yn Lloegr felly mae perffeth hawl da fe i ddweud ei farn," meddai.
"Dw i'n deall bod 'na lot o bobol sydd yn anhapus gydag arweinyddiaeth Jane, a ma hwnna wedi bod yn byrlymu dan y don fel petai ers rhai blynyddoedd.
"Pam mae hwn wedi dod i’r amlwg nawr? Mae hwnna’n datgelu bod 'na bobl yn anhapus gyda’i harweinyddiaeth hi."
Ychwanegodd: "Os gewch chi wared â Jane Dodds, mae’n debyg - fel ddigwydddod i Vaughan Gething - rhywbryd cyn bo hir bydd yn rhaid iddi ymddiswyddo.
"Ond pwy sy' am gymryd drosodd? Pwy sy'n amlwg ar y foment ydi’r Aelod Seneddol a enillod Brycheiniog [David Chadwick].
"Does dim gwahaniaeth o gwbl pwy sy’n arwain y blaid yn y Senedd… Dim hwnna yw’r mater.
"Pwy sy’n mynd i arwain y blaid yng Nghymru, a byddwn i’n tybio yn y sefyllfa fel ma'i nawr taw’r Aelod Seneddol dros Frycheiniog dylai wneud hynny."
Cefndir
Dywedodd Mr Davey, arweinydd y blaid yn San Steffan, ar raglen Sunday With Laura Kuenssberg, ei fod yn croesawu ymddiswyddiad Archesgob Caergaint, Justin Welby, yr wythnos hon, yn dilyn methiannau i adrodd camdriniaeth rhyw i’r heddlu.
Fe ychwanegodd: "Dw i’n credu bod y sefyllfa o gwmpas Eglwys Loegr yn un hynod o ddifrifol ac mae’n rhaid i ni gymryd y peth o ddifri.
"Rydw i’n croesawu ymddiswyddiad Archesgob Caergaint. Dw i wedi siarad gyda Jane am hyn.
"Mae hi wedi ymddiheuro, ac mae hi wedi cael gyrfa anhygoel o weithio gyda phlant, ond 'dw i wedi ei wneud yn eglur fy mod i’n meddwl y dylai hi ystyried ei chyfrifoldeb ynglŷn â hyn."
Pan ofynnwyd a oedd yn credu y dylai Ms Dodds ymddiswyddo, atebodd Mr Davey: "Dw i’n meddwl bod yn rhaid iddi hi adlewyrchu ar hyn yn ofalus iawn.
"Dw i’n derbyn ei bod wedi ymddiheuro, ond mae hwn yn fater difrifol felly dw i’n meddwl bod angen iddi hi ystyried beth arall sydd angen iddi hi ei wneud."
Dywedodd Mr Davey ei fod wedi trafod y mater gyda Ms Dodds.
"Rydw i wedi mynegi fy nheimladau iddi hi yn eglur iawn am beth dw i’n credu y dylai hi wneud a dw i’n meddwl ei bod hi’n ystyried y peth, a dw i’n gobeithio ei bod hi," meddai.
Dywedodd Ms Dodds: "Yn dilyn sgwrs ffôn gydag Ed Davey, siaradais yn uniongyrchol â chydweithwyr lleol y blaid a chwrdd â Bwrdd Cymru, sydd wedi mynegi eu hyder yn fy arweinyddiaeth.
"Yn dilyn y sgyrsiau hyn, a thrafodaethau gyda chydweithwyr eraill ar draws y blaid, rwyf wedi penderfynu parhau i frwydro dros bobol Cymru yn fy rôl fel arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru."
Ychwanegodd: "Rwyf wedi gwneud amddiffyn plant yn waith fy mywyd, ar ôl gweithio yn y maes am dros 20 mlynedd cyn dechrau mewn gwleidyddiaeth. Dyma pam yr wyf wedi ymroi fy safbwynt yn y Senedd i sicrhau bod gwasanaethau gofal plant ac amddiffyn plant ledled Cymru yn fwy diogel a thecach."
Dywedodd Tim Sly, llywydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Fe wnaeth Bwrdd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru gyfarfod â Jane Dodds ddydd Sadwrn a chawsant gyfle i drafod y materion a godwyd yn yr adroddiad yn fanwl gyda hi.
"Yn dilyn y drafodaeth hon, mynegodd y Bwrdd ei hyder llwyr yn Jane Dodds fel Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac mae’n ystyried bod y mater wedi’i gau."