Newyddion S4C

Caerdydd: Cyhuddo dyn 20 oed o lofruddiaeth

17/11/2024
Heol Trostre Llaneirwg, Caerdydd

Mae dyn 20 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dyn arall yng Nghaerdydd.

Fe gafodd Georgie Tannetta o Trowbridge ei gyhuddo o lofruddio dyn 43 oed yn Llaneirwg.

Mae hefyd wedi ei gyhuddo o fod ag arf bygythiol yn ei feddiant.

Bu farw James Brogan wedi iddo gael ei ddarganfod ag anafiadau difrifol ar Ffordd Coleford yn Llaneirwg am tua 16:00 ddydd Mawrth.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Lianne Rees o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru bod yr ymchwiliad yn parhau.

"Mae ymchwiliad llofruddiaeth wedi cychwyn ac rydym yn apelio am unrhyw dystion oedd o gwmpas ardal Heol Trostre a Coleford Drive yn Llaneirwg tua 16:00 ddydd Mercher i gysylltu gyda ni os oes ganddyn nhw unrhyw fath o wybodaeth," meddai.

"Rydym yn apelio hefyd i unrhyw un sydd â lluniau neu fideos ar eu ffonau symudol neu luniau cylch cyfyng i gysylltu gyda ni."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.