Buddugoliaeth i'r Llewod wrth i Alun Wyn Jones ddychwelyd i'r cae

Roedd hi'n brynhawn llwyddiannus i'r Llewod yn Ne Affrica wedi iddyn nhw sicrhau buddugoliaeth o 49 i 3 yn erbyn y Stormers.
Yn eu gêm baratoadol olaf cyn dechrau'r Gemau Prawf, fe lwyddodd y capten gwreiddiol, Alun Wyn Jones i ymddangos ar y cae am y 25 munud olaf.
Bydd y Llewod yn wynebu'r Springboks am y tro cyntaf ddydd Sadwrn, 24 Gorffennaf yn Stadiwm Genedlaethol FNB yn Johannesburg.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Asiantaeth Huw Evans