'Fedrwn ni ddim pwyntio bys at Eluned Morgan am newid treth etifeddiaeth ffermwyr'
'Fedrwn ni ddim pwyntio bys at Eluned Morgan am newid treth etifeddiaeth ffermwyr'
Dw i'n credu bod yr ieithwedd yn anffodus.
Fedrwn ni ddim pwyntio bys at Eluned Morgan am y newidiadau oherwydd penderfyniad yn San Steffan oedd hynny.
Mae 'na gyfnod maith wedi bod o ffermwyr yn trio dylanwadu Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ni'n cael cynllun amaeth ar ôl Brexit Llywodraeth Cymru i'r lle cywir.
Mae hwnna 'di bod yn anodd.
Oherwydd hynny mae cael y cyhoeddiad yma gan San Steffan efo dim ymgynghori o gwbl efo'r sector amaeth na'r un o'r ddwy undeb ymlaen llaw ac wedyn Eluned Morgan yn deud dylai pawb dawelu mae'n rhoi halen ar y briw.
Ydy Undeb Amaethwyr Cymru o blaid rhyw fath o streic?
Falle peidio gwerthu bwyd i archfarchnadoedd wythnos nesa?
Mae'r undeb yn gwbl ddemocrataidd.
'Dan ni'n adlewyrchu barn ein haelodau ar faterion.
Hyd yma does dim trafodaeth fewnol wedi bod ynghylch streicio.
Dw i'n gwbl ymwybodol bod aelodau'n teimlo'n filain am y sefyllfa.
Maes o law, bydd yr undeb yn dod allan efo safbwynt ar y mater.
Mae'n rhaid gwrando ar ein haelodau.
Mae'n anodd cynnig ateb ar y pwynt yna rŵan.
Mae 'na deimladau milain a phrotestiadau wedi bod dros y cynllun ffermio cynaliadwy.
Ni'n deall erbyn hyn gan Ysgrifennydd Materion Gwledig y bydd cynllun newydd ddiwygiedig yn cael ei gyhoeddi wthnos ar ol nesa. Be dach chi'n ei wybod?
Ni'n ymwybodol bod y penderfyniad wedi'i wneud y bydd cyhoeddiad.
'Dan ni'n croesawu hynny.
Ers i'r llywodraeth ddeall bod y cynllun gwreiddiol yn amhriodol ar gyfer amaeth yng Nghymru mae 'na waith sylweddol wedi'i wneud.
Dw i'n gwerthfawrogi bod 'na rwystredigaeth ymysg aelodau Undeb Amaethwyr Cymru a ffermwyr cyffredinol oherwydd mae'r trafodaethau wedi bod dan reolau Chatam House.
'Dan ni heb allu datgan y math o beth sy'n cael ei drafod.
Yn naturiol, roedd cymaint o anniddigrwydd gyda'r cynllun oni bai bod ni'n gweld newid sylweddol byddai 'na ddicter mawr.
Yn ôl Huw Irranca-Davies mae 'na gamau breision wedi'u gwneud.
Mae enillion mewn rhai llefydd.
Does dim wedi cytuno nes bod pob peth wedi cytuno.
'Dan ni'n aros i weld beth fydd ar y 25ain.
Mae 'na waith sylweddol wedi mynd mewn i hyn.
Mae'n deg deud dydy o ddim yn rhesymol bod y diwydiant wedi gorfod gwneud cymaint o waith mewn cyfnod mor fyr a'r llywodraeth wedi cael 8 mlynedd ers Brexit i ddod fyny efo proses newydd o gyllido amaeth.
'Dan ni'n mawr obeithio bod geiriau Huw Irranca yn gywir.
Cawn weld ar y 25ain.
Guto Bebb, diolch yn fawr iawn.