Newyddion S4C

Môn: Gosod cerrig enfawr i ddiogelu traeth poblogaidd rhag ceir a chartrefi modur

15/11/2024
cerrig Ynys Mon

Mae cerrig enfawr sydd wedi cael eu gosod ar draeth poblogaidd ar Ynys Môn i atal ceir a chartrefi modur rhag parcio yno yn gweithio.

Mae'r cyngor wedi gosod cerrig mawr ar ymyl maes parcio Lleiniog ger Penmon i atal cerbydau rhag parcio yn agosach i'r traeth.

Mae cerbydau wedi bod yn pasio drwy fwlch wrth y safle parcio picnic ger Penmon er mwyn cael mynediad i’r traeth ar lain o laswellt wrth y môr.

Ond ers mis Awst, mae Cyngor Môn wedi gosod cerrig mawr yno er mwyn atal mynediad i geir sydd yn aros dros nos.

Yn y gorffennol mae sbwriel wedi'i adael a thanau wedi cael eu cynnau dros nos ar y traeth, sydd yn safle o ddiddordeb gwyddonol.

Ers i'r cerrig cael eu gosod mae planhigion gwyllt wedi dechrau tyfu eto yn yr ardal.

Image
Penmon

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad i osod y cerrig wedi nifer o gwynion gan drigolion lleol.

"Roeddem wedi derbyn cwynion bod ymwelwyr â cherbydau yn gallu teithio trwy faes parcio Aberlleiniog a'u bod wedyn yn parcio ar y llain laswellt ger ceg yr afon.

“Roedd adroddiadau hefyd bod pebyll yn cael eu codi a thanau’n cael eu cynnau yn y lleoliad.

“Mewn ymateb (ar ddechrau mis Awst 2024), gosododd y cyngor res o gerrig i atal cerbydau rhag mynd i’r ardal laswellt.

“O ganlyniad, rhoddodd hyn gyfle i blanhigion gwyllt aildyfu."

'Ymateb brys'

Mae ymgyrchwyr nawr yn galw am drafodaethau i wella mwy o broblemau yn yr ardal gan gynnwys adolygiad o bont ger mynediad y maes parcio sydd yn cael ei effeithio gan lifogydd a llanw uchel.

“Mae hyd yn oed y llwybr arfordirol ar ochr arall yr afon yn dangos dirywiad pellach ac mae’r Cyngor Cymuned yn awyddus iawn i siarad gyda’r Cyngor Sir i weld beth sydd modd ei wneud," meddai Cyngor Cymuned Llangoed a Phenmon.

“Yn dilyn llifogydd a llanw uchel y gaeaf diwethaf ar yr adeg hon, roedd y bont bron â bod o dan y dŵr.

“Oherwydd cryfder y dŵr y gaeaf diwethaf, mae’r waliau ar ochr Penmon wedi cwympo i’r afon ac, am y rheswm hwn, rydym bellach yn credu bod angen archwiliad strwythurol ar y bont. Mae angen ymateb brys cyn ei bod hi’n rhy hwyr.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.