Newyddion S4C

Arestio dyn 20 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth yng Nghaerdydd

14/11/2024
Heol Trostre Llaneirwg, Caerdydd

Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn 20 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi marwolaeth dyn 43 oed yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.

Fe ymatebodd y gwasanaethau brys i adroddiadau o drywanu yn Heol Trostre yn ardal Llaneirwg yn y brifddinas tua 16:00 ddydd Mawrth. 

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Paul Raikes o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru: "Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth. 

"Rydym yn parhau i ymchwilio i'r mater ac yn apelio ar unrhyw dystion a oedd yn ardal Heol Trostre neu Rodfa Coleford yn Llaneirwg am tua 16:00 ddydd Mawrth i gysylltu, does ots pa mor fach y maen nhw'n meddwl ydy'r wybodaeth.

"Rydym yn apelio hefyd ar i unrhyw un sydd â lluniau neu fideos ar eu ffonau symudol neu luniau cylch cyfyng i gysylltu â ni."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.