Newyddion S4C

Perygl y gallai cartrefi gofal gau yn dilyn newidiadau i yswiriant gwladol

14/11/2024

Perygl y gallai cartrefi gofal gau yn dilyn newidiadau i yswiriant gwladol

Mae cadw cartref gofal yn waith caled ac yn gostus.

Gynnon ni 107 preswylydd a dros 240 o staff.

Mae'n siwr bod hyn yn costio lot?

Ydy tad, mae o'n costio lot.

Wedi penderfyniad Llywodraeth Prydain i godi treth yswiriant i gyflogwyr 1.2% i gyfanswm o 15% mae ar fin codi eto.

Bryn Seiont ei hun, fydd o'n costio £75,000 y flwyddyn.

I'r cwmni i gyd, fydd o dros £700,000 y flwyddyn.

Sut mae cartrefi bach yn mynd i allu fforddio?

Be fydd goblygiadau'r newidiadau? 

Mae o'n mynd i olygu bod cartrefi'n cau, fydd yn effeithio ysbytai.

Maen nhw'n llawn dop ar y funud.

Lle mae'r bobl hŷn yn mynd i fyw os yw'r cartrefi'n cau?

Mae'r Gwasanaeth Iechyd fel cyflogwr wedi eu heithrio ond dadlau mae'r Llywodraeth bod cartrefi gofal, meddygfeydd a hosbisau yn gwmniau preifat ac y dylen nhw dalu mwy.

Dadlau mae'r undebau y dylen nhw hefyd gael eu gwarchod rhag y codiadau sylweddol sydd i ddod.

Yr unig opsiwn fydd gynnon ni ydy rhoi'r contract yn ôl.

Mae hwn wedi digwydd yn aml dros Gymru ac yn arbennig gogledd Cymru.

I roi hynny mewn cyd-destun mae'r BMA yn darogan i bawb sy'n ennill cyflog o fwy na £30,000 bydd y cynnydd yn costio'r cyflogwr dros £850 mewn cyfraniadau i bob un person dros gyfnod o flwyddyn.

Ac yn rhybuddio yn y pendraw, geith effaith ar gadw a recriwtio staff.

Ar lawr Tŷ'r Cyffredin heddiw, ddim am y tro cyntaf roedd 'na gwyno am y sefyllfa.

Did they not realise care homes, surgeries, nurseries hospices and even charities have to pay Employers' NI?

Ond amddiffyn y polisi wnaeth y Prif Weinidog.

We have put more money into local authorities than they did in 14 years.

They left us in a catastrophic state.

We produced a budget which doesn't increase tax on working people.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi cael amser i gyrraedd y gyllideb.

Sut ar y ddaear maen nhw 'di methu meddwl trwodd be oedd yr effaith?

Nôl ym Mryn Seiont rhybuddio mai un o sawl ergyd ydy'r cynnydd i yswiriant gwladol.

Mae o'n draining.

Mae popeth yn mynd i fyny, costau staff, y Living Wage.

Mae'n teimlo fel constant battle.

Parhau i amddiffyn y polisi mae'r Llywodraeth ond dyw hynny'n fawr o gysur i feddygfeydd a chartrefi fel yr un yma sydd eisoes yn cyfri'r ceiniogau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.