Galw ar ASau i barhau i wisgo mygydau yn Nhŷ'r Cyffredin

Mae undebau wedi galw ar Aelodau Seneddol San Steffan i barhau i wisgo mygydau yn Nhŷ'r Cyffredin pan fydd y gofyniad gorfodol yn dod i ben yn Lloegr ddydd Llun.
Daw hyn ar ôl i Lefarydd y Tŷ, Syr Lindsay Hoyle ddweud na fydd modd gorfodi ASau i'w gwisgo.
Yn ôl Golwg360, mae undebau fel Prospect wedi annog ASau i bellhau eu hunain oddi wrth unrhyw aelodau sy'n dewis peidio gwisgo mwgwd.
Ni fydd hi'n ofyniad gorfodol i wisgo mwgwd yn Lloegr o ddydd Llun, ond bydd yn parhau yn "ddisgwyliad" mewn rhai mannau.
Darllenwch y stori'n llawn yma.