Cynllun i adnewyddu ffynnon er cof am arweinydd Byddin Rhyddid Cymru
Mae cynllun i adnewyddu ffynnon restredig Gradd II mewn tref yng Ngheredigion wedi cael ei gymeradwyo.
Roedd Cyngor Tref Llanbed wedi gwneud cais am ganiatâd i adfer ffynnon Sgwâr Harford ar ôl derbyn cyllid gan gynllun Trawsnewid Trefi.
Mae'r ffynnon yn cynnwys cerfiad yn ymwneud â Julian Cayo-Evans, sef arweinydd Byddin Rhyddid Cymru ar un adeg.
Cafodd ei hadeiladu yn 1862 fel anrheg gan J S Harford o Peterwell i drigolion Llanbed a chafodd ei hadnewyddu yn 1990.
Roedd y ffynnon wedi darparu dŵr yfed cyntaf i bobol y dref, meddai datganiad sy'n cefnogi’r cais.
Mae'r gwaith adnewyddu yn cynnwys glanhau a thrwsio'r ffynnon, gan ganiatáu i'r dŵr lifo eto.
"Yn ystod ein harchwiliad o’r ffynnon, rydym wedi darganfod cerfiad o enw adnabyddus yn Llanbed, Julian Cayo-Evans, sydd o bwysigrwydd treftadaeth leol a chenedlaethol," meddai'r datganiad.
Pwy oedd Julian Cayo-Evans?
Cafodd Julian Cayo-Evans ei eni yn Silian ger Llanbed, ac mae’n adnabyddus fel arweinydd Byddin Rhyddid Cymru.
Ymddangosodd Byddin Rhyddid Cymru’n gyhoeddus am y tro cyntaf yn 1965, mewn protest yn erbyn adeiladu argae Llyn Celyn. Y flwyddyn ganlynol fe ymunodd y fyddin â dathliadau Gwyddelig hanner canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg yn Nulyn.
Yn y cyfnod cyn Arwisgo Tywysog Cymru yn 1969, cafwyd Cayo-Evans yn euog o gynllwyn i achosi ffrwydradau.
Fe fuodd o farw yn Silian yn 1995.