Wrecsam: Cyhuddo dyn o ddynladdiad ar ôl marwolaeth dyn 59 oed
07/11/2024
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad yn dilyn marwolaeth dyn 59 oed yn Wrecsam.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ddydd Iau eu bod wedi arestio dyn 30 oed mewn cysylltiad â marwolaeth dyn arall ym mis Mehefin 2023.
Bu farw John Ithell o Bentre Gwyn ar 12 Mehefin yn Ysbyty Maelor ar ôl digwyddiad yn oriau mân y bore'r diwrnod hwnnw.
Mae Paul Thomas Ince o Wrecsam wedi ei gyhuddo o ddynladdiad ddydd Iau.
Bydd yn ymddangos o flaen y llys ar 11 Rhagfyr.