Un person yn yr ysbyty ar ôl 'gwrthdrawiad difrifol' rhwng tri char yn Sir Gaerfyrddin
Mae'r un person yn yr ysbyty ar ôl "gwrthdrawiad difrifol" rhwng "sawl car" ger Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod nhw wedi eu galw i wrthdrawiad ar yr A48 ger Pont Abraham.
"Roeddem wedi danfon tri ambiwlans i'r digwyddiad," medden nhw.
"Cafodd dau berson eu trin yn y fan a'r lle a chafodd un person ei gludo i'r ysbyty am driniaeth bellach."
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod disgwyl i ffordd yr A48 rhwng Pont Abraham a Cross Hands fod ar gau "nes heno".
Nid yw'r llu wedi dweud yn benodol pryd mae disgwyl i'r ffordd ail-agor.
Cafodd pedwar o griwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a De Cymru eu galw i'r gwrthdrawiad am 11:54 fore Mawrth.
Llun: Nadine Wolsey