Newyddion S4C

‘Peidiwch dod gytre’- Effaith streic y glowyr ar y plant

12/11/2024

‘Peidiwch dod gytre’- Effaith streic y glowyr ar y plant

Mae dyn o Sir Gâr, oedd yn blismon gyda Heddlu’r Met yn ystod streic y glowyr yn 1984, yn cofio ei fam yn dweud wrtho am beidio dod 'nôl adref i Gymru. 

Yn wahanol i’w dad a’i dad-cu, fe benderfynodd Mike Jones o Frynaman a’i frawd ymuno â’r heddlu. Ond roedd yn benderfyniad dadleuol ar y pryd. 

Un digwyddiad sy’n aros yn ei gof, meddai, oedd dynion o ardal y tu allan i’r pentref yn dweud pethau cas a bod yn fygythiol tuag at aelodau o’i deulu.

“Gorffod fy mam a nhad a nheulu i gyd gerdded mas o dafarn yn Brynaman, pentref ei hunen. Odd ofn ar mam ar y pryd. Y peth mwy torri calondid odd yn fam yn gweud wrtho fi, peidiwch dod gytre. Ma ofon gweld chi’n dod gytre nawr.”

'Rhyddhad' 

Roedd Mike Jones fel plismon wedi cael ei alw i fynd i Nottingham i fod ar y llinell biced, rhywbeth oedd yn pwyso arno. 

“Daeth y mos i lan i fi a gweud ‘tho fi, ‘Dere ma gwd boi, fi’n gwbod taw colier yw dy dad di a fi di neud penderfyniad mawr, nagyt ti yn mynd’. Ma rhaid i fi weud, rhyddhad mwya fi di cael yn fy mywyd a des i o na a es i ddim lan i’r llinell biced.”

I gofnodi 40 mlynedd ers Streic y Glowyr mae’r cyflwynydd teledu Alex Jones yn dychwelyd i’w thref enedigol, Rhydaman, er mwyn siarad â phobl oedd â rhieni yn sefyll ar y llinell biced.

Image
Alex Jones ac Emma Jones yn trafod streic y glowyr
Mae Emma Jones yn cofio bod nifer yn yr un sefyllfa â'i theulu hi adeg y streic 

Mae ‘Alex Jones: Plant y Streic’  yn edrych ar streic y glowyr trwy lygaid y plant – cenhedlaeth Alex. Maent yn dweud bod eu bywydau wedi newid yn ystod y flwyddyn honno. 

Mis Mawrth 1984 oedd hi ac fe gyhoeddodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol bod 20 o byllau glo i gau. Galwodd llywydd yr NUM (Undeb Cenedlaethol y Glowyr) Arthur Scargill am streic. O fewn wythnos roedd pob un o lowyr Cymru ar streic. 

Doedd dim tâl swyddogol i’r glowyr ac roedd unrhyw fudd-dal yn cael ei dorri. 

Mae Emma Jones o Ystradgynlais yn cofio’r menywod yn dod yn asgwrn cefn y gymuned.

'Teimlo bach yn ashamed'

“Odd eu rôl nhw yn newid. O’n nhw yn gweithio yn y ‘jymbls’, fel o’n nhw yn gweud, neud y packed lunches, casglu pethe, y nwydde odd pobl yn rhoi yn y gymuned.”

Roedd ei thad meddai yn “teimlo bach yn ashamed falle. Odd balchder 'da dad, bod e’n dod â’r arian, eitha da fel glöwr, i mewn ar y pryd.”

Fe fu’n rhaid gwerthu'r garafán deuluol. Penderfyniad oedd yn “rili ypseting” meddai.

Mae’r actor Aled Pugh hefyd yn cofio'r aberth roedd yn rhaid i’w rieni wneud wrth i’w dad roi’r gorau i weithio. Roedd e’n yn mynd i’r ysgol yn fan oren teulu Alex Jones. 

“O’n i yn meddwl bod ni yn cael mynd i’r ysgol yn y campervan achos bod e’n cŵl, heb yn wybod i fi mai'r rheswm o’n i yn mynd 'na, odd achos bod mam a dad ddim yn gallu fforddio rhedeg y car.” 

I Natalie Reynolds roedd y cyfnod yn un o falchder iddi hi am yr hyn roedd ei thad yn gwneud. Roedd e yn flaenllaw yn trefnu rhai o’r digwyddiadau gan gynnwys picedi yn Lloegr a chodi arian. 

“Ot ti jest yn gwybod odd beth o'dd Dad yn neud, beth odd y bobl yn neud yn bwysig iawn. A fi’n credu ti’n cario hwnna trwy bywyd. Mae’n dysgu rhywbeth i ti, fight for what you believe in a ma hwnna tu fewn.”

Image
Menywod yn cefnogi y dynion yn ystod streic y glowyr
Fe chwaraeodd y menywod ran flaenllaw yn y streic 

Mae nifer yn dweud bod y streic, a barodd flwyddyn, wedi dod â’r gymuned at ei gilydd.

“Beth oedd wedi synnu fi oedd pa mor garedig a chyfeillgar, oedd ffrindiau, cymdogion a theulu pobl fel teulu Alex – oedd ’na deimlad oedd pawb yn ralio rownd ei gilydd i helpu, doedd e ddim jyst unigolion oedd yn dioddef, oedd y gymuned yn dioddef fel un,” meddai Aled Pugh.

Ond fe adawodd y streic ei hôl hefyd. Mae rhai yn cwestiynu a oedd y protestio wedi bod werth y boen.

Tueddu i feddwl bod y cyfan wedi bod yn “wastraff amser” mae Terry Pugh.

“Aethon ni nôl i gwaith ag o’n nhw yn gweud, ‘We are going back with heads held high’. Nago'n, nago'n…Odd shwt gyment o dynion pan gaeodd Betws, dynion da, gweithwyr caled, weithion nhw byth eto.”

Alex Jones: Plant y Streic, nos Fawrth 12 Tachwedd 21.00 ar S4C 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.