Protestiadau wrth i Frenin Sbaen gyrraedd ardaloedd y llifogydd

03/11/2024

Protestiadau wrth i Frenin Sbaen gyrraedd ardaloedd y llifogydd

Roedd golygfeydd treisgar ar strydoedd Paiporta ger Valencia ddydd Sul, wrth i Frenin Sbaen, Felipe VI ymweld ag ardaloedd sydd wedi eu taro gan lifogydd difrifol. 

Gyda dwsinau yn bresennol, mae'r brotest wedi troi'n fygythiol wrth i'r Brenin ymweld â'r ardal er mwyn asesu'r difrod ei hun.

Bu'n rhaid i'r heddlu ym marchogaeth ceffylau ymyrryd, er mwyn cadw'r dorf draw, wrth i'r Brenin gerdded drwy'r strydoedd gyda chriw diogelwch.     

Mae mwy na 200 o bobol wedi marw a'r chwilio yn parhau am ragor sydd ar goll ers i'r llifogydd greu dinistr mewn sawl tref a dinas ddydd Llun diwethaf.  

Cynyddu mae'r dicter yn Sbaen, gyda'r cyhoedd yn beirniadu'r awdurdodau gan ddadlau na chawson nhw ddigon o rybudd cyn i'r llifogydd daro. 

Yn ôl adroddiadau, cafodd gwrthrychau eu taflu tuag at yr awdurdodau yn y brotest amser cinio ddydd Sul, ac mae rhai wedi bod yn gweiddi ar y Brenin gan ei alw'n "llofrudd."  

Llun: Wochit    

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.