Aelodau CFFI Llangwyryfon ac Uwchaled yn cipio gwobrau cymunedol yn ninas Birmingham
Aelodau CFFI Llangwyryfon ac Uwchaled yn cipio gwobrau cymunedol yn ninas Birmingham
Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Llangwyryfon yng Ngheredigion wedi ennill Gwobr Gymunedol Brydeinig Mudiad y Ffermwyr Ifanc trwy Gymru a Lloegr.
Teithiodd mwy nag 20 o aelodau'r clwb i ddinas Birmingham ddydd Sadwrn am eu bod wedi eu henwebu ar gyfer Gwobr Ysbryd Cymunedol Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc 2024.
Roedden nhw'n cystadlu yn erbyn clybiau o Gaint, Sir Amwythig, a Cumbria.
Roedd hynny'n golygu na allai'r aelodau fod yn bresennol yn Eisteddfod CFFI Cymru yng Nghaerfyrddin.
Ar ddiwedd oriau o gystadlu yn yr eisteddfod, datgelodd un o hoelion wyth y clwb ar raglen yr Eisteddfod ar S4C fod CFFI Llangwyryfon wedi dod i'r brig yn Birmingham.
Dywedodd Eirwen Williams y byddai dathliadau mawr, a bod y clwb wedi ennill y wobr am gyflawni armywiaeth o weithgareddau yn eu cymuned: "O tocio'r fynwent, codi arian i elusennau, newydd cael grant i roi paneli solar ar neuadd y pentre', popeth ellwch chi feddwl am, ma' nhw'n neud e," meddai.
Wrth ymateb i'r fuddugoliaeth yn Birmingham, dywedodd swyddog y wasg Cffi Llangwyryfon, Eiry Williams wrth Newyddion S4C: "Mae'r aelodau mor falch bo' ni wedi ennill ar lefel Cymru a Lloegr, mae'n braf cael cydnabyddiaeth am yr holl waith ni'n neud, a ni am barhau gyda'r gwaith cymunedol a brwydo yn erbyn yr heriau!"
Hefyd yn y seremoni, roedd llwyddiant i Ceridwen Edwards yn cynrychioli Clwb Ffermwyr Ifanc Uwchaled, Clwyd wrth iddi ennill y categori "'Calon y CFFI."
Dywedodd y beirniaid ei bod yn llwyr haeddu'r wobr oherwydd ei hegni a'i balchder o fod yn aelod o'i chlwb. Cafodd ei chanmol am ei hagwedd at gynwysoldeb.