Ynys Môn: Gwrthwynebiad i adeiladu 30 o dai 'fforddiadwy'
Mae gwrthwynebiad i adeiladu 30 o dai "fforddiadwy" mewn pentref ar Ynys Môn.
Mae cynllunwyr wedi cyflwyno cais i adeiladu'r tai ar ben cae ger pentref Llandegfan.
Dywedodd swyddogion cynllunio eu bod yn argymell y dylai'r cynlluniau gael eu cymeradwyo.
Ond mae "pryderon lleol" am y cynllun meddai'r Cynghorydd Alun Roberts.
Fe fyddai'r cynllun, sydd wedi ei gyflwyno gan Clwyd Alyn Housing Ltd a DU Construction Ltd, yn golygu bydd y tai yn cael eu hadeiladu wrth ymyl stryd Gwel y Llan.
Fe fydd y cynllun yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf pwyllgor cynllunio Cyngor Ynys Môn ar 6 Tachwedd.
'Gormod o lety gwyliau'
Mae cyngor cymuned Cwm Cadnant yn gwrthwynebu'r cynllun ac yn dadlau y byddai'r cynllun yn "estyniad annerbyniol" a bod pryder am "fioamrywiaeth a diogelwch y briffordd".
Roedd 12 llythyr a chwe sylwad ar y ddogfen cynllunio yn gwrthwynebu'r cynllun.
Ymysg y sylwadau hyn roedd pryder na fydd ysgolion lleol a'r feddygfa yn gallu ymdopi gyda mwy o bobl leol a bod gormod o lety gwyliau eisoes yn yr ardal.
Roedd hefyd pryderon am golli ardal werdd, yr effaith ar yr amgylchedd a risg llifogydd.
Roedd y cynlluniau’n nodi bod yr ymgynghorydd ecolegol ac amgylcheddol wedi cadarnhau bod y cynllun yn cael ei ystyried yn “dderbyniol”.
'Cymsyg o dai a fflatiau'
Byddai'r cartrefi yn gymysg o dai rhent cymdeithasol a fflatiau un ystafell wely, 13 o dai dwy ystafell wely, wyth tŷ tair ystafell wely, un tŷ pedair ystafell wely a phedwar byngalo gyda dwy ystafell wely, yn ôl y cynllun.
Byddai gan bob un lle parcio gydag ardal fach o ardd flaen neu i'r ochr gyda'r brif ardd y tu ôl.
Byddai ardal batio a sied ardd yn cael eu darparu o fewn pob llain, yn ôl y cynlluniau.
Byddai mynediad i geir i'r datblygiad hefyd o stad breswyl Gwel y Llan a Gwel Eryri, gyda ffordd fynediad mewnol a phalmentydd i gerddwyr.
Prif lun: Dogfennau cynllunio Ioacc