Newyddion S4C

Movember: Dyn o Gymru yn ceisio torri record am y llun GPS mwyaf o bidyn

01/11/2024
Terry

Mae dyn o dde Cymru yn ceisio torri record am y llun GPS mwyaf o bidyn ar gyfer Movember.

Mae Terry Rosoman, 39, wedi cynllunio llwybr 75 milltir siâp pidyn ar draws Bannau Brycheiniog y bydd yn ei gerdded er mwyn codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl dynion.

Mae'n gobeithio y bydd y siâp yn cael sylw gan "y grŵp demograffig y mae'n targedu" gan ddweud y bydd y mwyafrif o ddynion yn gweld y siâp yn "ddoniol".

Mae Movember yn elusen sy'n codi arian ac ymwybyddiaeth am iechyd meddwl dynion, hunanladdiad a chanser y prostad a chanser y ceilliau.

Mae Mr Rosoman yn gobeithio codi £5,000 ar gyfer yr elusen. 

Bydd ei her yn dechrau yng ngorsaf drên Y Fenni am 17:00 ddydd Gwener, ac mae'n gobeithio dychwelyd i'r orsaf erbyn 17:00 ddydd Sadwrn. 

Image
map
Y map o'r llwybr 55 milltir siâp pidyn

Mae Mr Rosoman yn brofiadol iawn gyda heriau corfforol tebyg, wedi iddo ddringo Pen Y Fan 10 gwaith mewn 24 awr yn ogystal â rhedeg marathon pellter eithafol.

Ond mae'n dweud mai creu'r llun GPS mwyaf o bidyn ydy'r pellter mwyaf y mae wedi ei redeg a'i her fwyaf hyd yma. 

Cafodd ei ysbrydoli i wneud heriau o'r math yma ar ôl iddo fod eisiau trawsnewid ei fywyd wedi blynyddoedd o yfed yn ormodol, ysgmygu, problemau gyda'i bwysau a chymryd cyffuriau. 

Dywedodd ei fod yn y "cyflwr corfforol a meddyliol gwaethaf yn ei fywyd" yn 2013 ac roedd yn pryderu y gallai golli ei fywyd yn sgil ei ffordd o fyw. 

Mae Mr Rosoman yn gobeithio y bydd ei her yn ysbrydoli dynion i wynebu eu heriau personol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.