Newyddion S4C

RAAC: Cau wardiau Ysbyty Llwynhelyg am gyfnod pellach ar gyfer gwaith 'ail-arolygu'

30/10/2024

RAAC: Cau wardiau Ysbyty Llwynhelyg am gyfnod pellach ar gyfer gwaith 'ail-arolygu'

Dyma Ysbyty Llwynhelyg fis Medi llynedd.
 
Ardaloedd ar gau a chleifion yn cael eu hadleoli ar ol i goncrit RAAC gael ei ddarganfod yno.
 
"You can see the cracking, it's quite widespread."
 
Dros flwyddyn yn ddiweddarach, mae'r olygfa yn dra wahanol.
 
Mae e'n fishi, ma' pobl, cleifion, ma' nyrsys.
 
Gyda'r chwe ward y bu'n rhaid eu cau ar y pryd bellach wedi eu hailagor ers mis Ebrill.
 
"Odd e'n eitha galed pan o'n i ar wardiau arall, sdim byd yn clico.
 
"Ni 'di dod nôl a mae popeth jyst wedi mynd nol fel wedd e.
 
"Mae e'n neis i glywed swn 'ma o'r diwedd."
 
"Erbyn hyn, ni'n wynebu'r gaeaf hefyd, ni'n mynd i gael winter pressures hefyd.
 
"Mae'n bwysig bod y wards yma ar agor ar ein cyfer ni."
 
Er bod y chwe ward oedd ar gau oherwydd RAAC bellach wedi ailagor mae'r Bwrdd Iechyd yn rhybuddio y bydd yn rhaid i'r wardiau gau eto tra bydd gwaith
ail-arolygu yn digwydd.
 
A hynny, ddiwedd y flwyddyn.
 
Shwt mae hwnna yn neud i chi deimlo?
 
"Y bobl sy'n bwysig i ni yw'r cleifion.
 
"Bydd hynny ddim yn effeithio ar y driniaeth fyddan nhw'n ei gael."
 
Mae'r rhan fwyaf o glinigau cleifion allanol a gafodd eu hadleoli i leoliadau arall ar y pryd wedi dychwelyd i Ysbyty Llwynhelyg ers mis Gorffennaf.
 
Bydd gwaith adfer ar lawr waelod yr ysbyty, serch hynny yn parhau tan fis Ebrill 2025 gydag ail-arolygon yn cael eu cynnal yn ystod 2025 ac i mewn i 2026.
 
"Fi'n credu bod pobl yn gyfarwydd ag e erbyn hyn.
 
"Ni'n pasio heibio'r acrow-props a ddim rili'n sylwi arnynt.
 
"Ni just yn clatsho bant."
 
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw wedi cymeradwyo £12.8m i barhau â'r gwaith adfer ac arolygu yma'n Ysbyty Llwynhelyg.
 
Ac er bod 'na welliannau amlwg i'w gweld yma mae'r staff yn dweud bod RAAC yn parhau i brofi'n her.
 
"It's never going to go away.
 
"We're constantly going to have to manage and survey RAAC on a continual basis for the lifetime of the building."
 
Mae Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Andrew Carruthers, yn pwysleisio na fydd y gwaith ail-arolygu yn ddim byd tebyg i raddfa'r newidiadau a fu y llynedd gydag ardaloedd yn cael eu hadleoli un ar y tro am gyfnod byr iawn o amser.
 
Gyda gwaith adfer ar ôl a'r gwaith ail-arolygu eto i ddod mae'r daith i waredu RAAC yma ymhell o fod drosodd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.