Cais am 30 o dai fforddiadwy yn codi pryderon dros barcio mewn tref yng Ngheredigion
Mae cais i godi 30 o dai a fflatiau newydd mewn tref arfordirol yng Ngheredigion wedi codi pryderon dros golli safleoedd parcio.
Mae cymdeithas tai Barcud a chwmni cynllunio Asbri Planning Ltd wedi rhoi cais cynllunio llawn am gynllun cartrefi newydd sydd yn gwbl fforddiadwy ar Faes Parcio Canolog ar Ffordd Tywyn yng Nghei Newydd.
Mae’r safle yn gweithredu fel maes parcio talu ac arddangos ar hyn o bryd, dan feddiant a rheolaeth Barcud.
Yn y cais gwreiddiol, roedd y cynllun y cynnwys 16 o fflatiau un llofft, 10 tŷ dwy lofft a phedwar tŷ tair llofft, gyda 56 o safleoedd parcio.
Ond wedi i drigolion godi pryderon dros golli’r maes parcio, mae rhai newidiadau wedi eu gwneud i’r cais cynllunio.
Dywedodd datganiad cefnogol gyda’r cais: “Yr ymateb cryfaf a dderbyniwyd yn ystod y broses Ymgynghori Cyn Ymgeisio a’r digwyddiad ymgysylltu oedd dros golli’r ddarpariaeth barcio a’r angen i sicrhau y gallwn ddarparu cymaint o leoedd parcio â phosibl a fydd yn helpu i liniaru unrhyw bwysau ar fusnesau lleol.
“Oherwydd hynny, fe wnaethom adolygu'r cais yn dilyn y broses ymgynghori i weld sut y gallwn geisio gweithio gyda thrigolion a busnesau lleol cymaint â phosibl i sicrhau y gall y cynllun fynd i'r afael â'u prif bryder; colli parcio.”
Mae’r cynnig nawr yn cynnwys 10 fflat un llofft, chwe fflat dwy lofft, 10 tŷ dwy lofft a phedwar tŷ â thair llofft, gyda dros 90 o safleoedd parcio.
O ganlyniad i'r cartrefi a llefydd parcio ychwanegol, fe fydd yn rhaid adeiladu ar ddarn o dir cyfagos oedd wedi ei glustnodi fel gofod agored, yn ôl y datblygwyr.
Fe gafodd cais blaenorol ar y safle, am 39 o gartrefi, ei wrthod yn 2020.
Fe fydd y cais diweddaraf yn cael ei drafod gan adran gynllunio’r cyngor maes o law.
Llun: Maes Parcio Canolog ar Ffordd Tywyn yng Nghei Newydd (Google Maps)