Sir Gâr: Dau berson wedi marw mewn gwrthdrawiad

29/10/2024
A40 ger Llanymddyfri

Cyhoeddodd yr heddlu bod dau berson wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin ddydd Sadwrn.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad oedd yn ymwneud â beic modur Honda coch ar ffordd yr A40 i'r de o Lanymddyfri am 19:30.

Bu farw gyrrwr y beic a pherson oedd ar gefn y beic yn y fan a'r lle.

Roedd y ffordd ar gau tra bod yr heddlu yn ymchwilio ac fe gafodd ei hail agor brynhawn Sul.

Mae ymchwiliad y llu yn parhau ac maen nhw'n gofyn i unrhyw un oedd yn gyrru trwy Lanymddyfri adeg y digwyddiad ac sydd â lluniau cylch cyfyng i gysylltu trwy ddyfynnu'r cyfeirnod 317 o 26 Hydref.

Bu farw tri pherson mewn gwrthdrawiadau yn ymwneud â beiciau modur yn ardal Llanymddyfri dros y penwythnos.

Bu farw un person arall mewn gwrthdrawiad rhwng car Volkswagen du a beic modur KTM du yn y sir ddydd Sul.

Roedd y gwrthdrawiad hwnnw ar ffordd yr A4069 rhwng Llangadog a Llanymddyfri tua 10:30.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.