Llanc sydd wedi ei gyhuddo o lofruddiaethau Southport wedi ei gyhuddo o gynhyrchu gwenwyn
Llanc sydd wedi ei gyhuddo o lofruddiaethau Southport wedi ei gyhuddo o gynhyrchu gwenwyn
Mae'r dyn ifanc sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio tair merch yn Southport wedi ei gyhuddo o gynhyrchu gwenwyn a bod â llawlyfr hyfforddiant milwrol Al Qaeda yn ei feddiant.
Bydd Axel Rudakubana, sydd o Gaerdydd yn wreiddiol yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster drwy gyfrwng fideo ddydd Mercher wedi ei gyhuddo o greu'r gwenwyn Ricin.
Fe fydd hefyd yn wynebu cyhuddiad o fod â gwybodaeth yn ei feddiant allai fod yn ddefnyddiol i berson sy'n cyflawni gweithred derfysgol neu'n paratoi i wneud hynny.
Daw'r cyhuddiadau wedi i swyddogion archwilio ei dŷ yn Banks, Sir Gaerhirfryn, meddai Prif Gwnstabl Heddlu Glannau Mersi, Serena Kennedy ddydd Mawrth.
Mae'r drosedd derfysgol yn ymwneud â dogfen PDF o'r enw Military Studies In The Jihad Against The Tyrants, llawlyfr hyfforddi Al Qaeda, meddai Ms Kennedy.
Mae Mr Rudakubana eisoes wedi ei gyhuddo o lofruddio tair o ferched mewn dosbarth dawnsio yn Southport ar 29 Gorffennaf.
Yn ogystal mae wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio wyth o blant eraill, athrawes y dosbarth dawns, Leanne Lucas a'r dyn busnes John Hayes.
'Nid digwyddiad terfysgol'
Nid yw'r ymosodiad wedi ei gategoreiddio fel digwyddiad terfysgol gan heddlu gwrthderfysgaeth, meddai Ms Kennedy.
“Rwy’n cydnabod y gallai’r cyhuddiadau newydd hyn arwain at ddyfalu," meddai.
“Er mwyn i drosedd gael ei datgan fel digwyddiad terfysgol, byddai angen sefydlu cymhelliant.
“Byddwn yn cynghori unrhyw un yn gryf i beidio â dyfalu beth yw’r cymhelliant yn yr achos hwn.
“Mae’r achos troseddol yn erbyn Axel Rudakubana yn fyw ac mae ganddo hawl i achos teg.”