Carcharu dyn am ymosod ar ei gyn bartner

29/10/2024
Phillip Hill
Mae dyn 33 oed o'r Rhyl wedi ei garcharu am 15 mis ar ôl iddo dagu ei gyn bartner.
 
Ymosododd Phillip Hill ar y ddynes yn ei chartref ar 16 Awst.
 
Cyfaddefodd iddo dagu'r ddynes yn fwriadol, pan ymddangosodd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug. 
 
Clywodd y llys fod Hill yn anfodlon bod ei gyn bartner wedi ymweld â pherthynas a oedd yn anhwylus, a'i fod wedi gafael ynddi yn ei gwddf a'i gwthio yn erbyn wal.
 
Llwyddodd i ddianc oddi yno, cyn i Phillip Hill ei llusgo i'r llawr, a'i thagu unwaith yn rhagor.
 
Galwodd y ddynes yr heddlu ar ôl iddi lwyddo i ddianc o'r cartref, a chafodd Hill ei arestio yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.  
 
Dywedodd y Cwnstabl Kieran Jones: “Nid ydym yn goddef ymddygiad treisgar tuag at fenywod.  
 
“Mae'r ddioddefwraig wedi dangos dewrder wrth gysylltu â ni ar ôl ei phrofiad arswydus. Dylid canmol ei dewrder gydol yr ymchwiliad hwn." 
 
Llun Heddlu Gogledd Cymru 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.