Heddlu'n ymchwilio i 'anghysonderau posib ' yn un o adrannau Cyngor Powys
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i "anghysonderau posib" o fewn adran o Gyngor Sir Powys.
Cafodd honiadau am gamymddwyn eu cyfeirio at y cyngor dros flwyddyn yn ôl ac mae'r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio.
Mae'n debyg fod yr honiadau'n ymwneud â'r defnydd o darmac ar rai o ffyrdd y sir, ac mai'r adran briffyrdd sydd dan y chwyddwydr.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: "Gallwn gadarnhau fod Cyngor Sir Powys wedi bod mewn cysylltiad i drafod anghysonderau posib. Mae ymchwiliad wedi cychwyn.
"Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda'r cyngor i geisio deall y materion yn llawn."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys fod trafodaethau wedi eu cynnal gyda'r llu a gydag Archwilio Cymru.
"Mae aelodau'r Cabinet wedi cael clywed am yr ymchwiliad.
"Mae'r cyngor yn parhau i ymchwilio i natur yr honiadau ac ni allwn wneud sylw tan fod yr ymchwiliad wedi ei gwblhau."