'Pryderus iawn': Cau pont droed ym Mhwllheli wedi tân
Mae pont droed boblogaidd ym Mhwllheli wedi ei chau yn dilyn amheuon ei bod wedi ei rhoi ar dân yn fwriadol.
Cafodd rhan sylweddol o bompren rhwng Lôn Cob Bach a Phont Solomon ym Mhwllheli ei llosgi nos Fercher 23 Hydref 2024, gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael eu galw.
Oherwydd “pryder am ddiogelwch y strwythur” mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu cau'r llwybr dros dro.
Meddai Gerwyn Jones, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Mae’r bont droed yma ym Mhwllheli yn hynod boblogaidd gyda thrigolion lleol ac yn cynnig cyfle i fwynhau amgylchedd a byd natur tafliad carreg o ganol y dref.
“Er bod yna fandaliaeth wedi ei brofi i’r bont dros y blynyddoedd, yn dilyn gwaith atgyweirio diweddar, mae yna ddefnydd da wedi ei weld ohoni.
“Mae’n bryderus iawn felly fod y strwythur wedi gorfod ei gau dros-dro ar ôl y tân yma, ac mae’n loes calon gweld y difrod sydd wedi ei achosi.
“Yn ogystal â’r anhwylustod fod rhaid cau y bont dros dro, mi fydd yna gostau sylweddol i’r Cyngor er mwyn gallu atgyweirio’r strwythur – mewn cyfnod lle mae cyllid yn brin, mae hyn yn gost di-angen.
“Mae’n siomedig bod ymddygiad lleiafrif bach iawn yn difetha mwynhad pobl o’r bompren."
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, gysylltu â Heddlu'r Gogledd gan nodi'r rhif digwyddiad Q160764.
Lluniau: Cyngor Gwynedd