Newyddion S4C

Dyslecsia: Datblygu profion llythrennedd newydd yn y Gymraeg

28/10/2024

Dyslecsia: Datblygu profion llythrennedd newydd yn y Gymraeg

"Barod?"

Sesiynau arbennig yn yr ysgol. Ymhell o sŵn y Dosbarth mae'r stafell yma yn gyfle i fagu hyder a datblygu sgiliau pwysig.

"Mae'n helpu ni gyda sillafu a darllen a basic stuff."

"Ni'n neud sesiynau achos mae rhai pobl ddim yn cael as much hyder."

"Mae'n gallu helpu gyda Cymraeg a darllen."

"Fy hoff beth fi yw chwerthin gyda ffrindiau fi."

Mae'r bechgyn yma wedi bod yn treialu profion llythrennedd newydd. Maen nhw'n gallu dweud os oes gan ddisgybl anhawster llythrennedd neu ddyslecsia ac am y tro cyntaf erioed maen nhw wedi gallu gwneud hynny yn Gymraeg, rhywbeth mae'r ysgol yma yn ei groesawu yn fawr.

"Mae'r ffaith bod dim byd ar gael yn y Gymraeg yn dorcalonnus rili. Mae'n rhoi dysgwyr dan anfantais.

“Yn aml oedd rhieni'n gofyn am gymorth neu gefnogaeth ac oeddech chi'n neud eich gorau glas ond heb sylfaen ar y pryd i fesur lle oedden nhw a fel maen nhw wedi gwneud cynnydd."

Mae'r diolch i waith ymchwil tîm o arbenigwyr o Brifysgol Met Caerdydd. Gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru a'r Coleg Cymraeg y gobaith yw bod y profion yma ar gael am ddim i bob ysgol uwchradd ymhen dwy flynedd.

"Oedd hi'n bwysig i ni bod y profion yn cael eu datblygu fel bod cyfiawnder i bobl sy'n siarad Cymraeg. Os chi 'di cael eich magu yn Gymraeg, mae hawl 'da chi i gael eich addysg ac asesiadau yn Gymraeg."

"Os ni ond yn asesu plentyn trwy un iaith ac maen nhw'n ddwyieithog ni ddim yn cael darlun cyflawn o'r plentyn. Ni ond yn gweld un persbectif.

"Yn bendant, dw i'n meddwl bod plant wedi cael cam."

"Ar ôl i fi wneud ymchwil yn y maes dyslecsia..."

Yn ôl un rhiant i blentyn â dyslecsia mae angen gwneud mwy i sicrhau bod y profion ar gael i bawb.

"Mae'n wych bod y profion yn mynd i fod ar gael mewn ysgolion ond mae angen edrych sut mae unigolion yn medru cyrraedd nhw.

"Mae lot angen y profion ond wedi gadael addysg ella. Mae dal yn mynd i gostio nhw hyd at £600 ac yn Saesneg.

"Dw i'n nabod pobl sydd 'di gorfod benthyg pres oherwydd y gost i gael y prawf. Mae'n hollol anghyfiawn."

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru bod gyda nhw fframwaith anawsterau dysgu penodol a chanllawiau ar sgrinio asesu ac ymyrryd i helpu deal yn well yr anawsterau i ddysgwyr a dyslecsia.

Nôl yn yr ysgol a'r hwyl yn parhau wrth sicrhau bod pob plenty yn cael yr un chwarae teg.

"Snap!"

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.