Newyddion S4C

Cerddwr yn dioddef anafiadau ‘difrifol’ ar ffordd ger Llangefni

27/10/2024
B4422 Rhostrehwfa

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad “difrifol” rhwng cerddwr â char yn oriau mân fore dydd Sul ger Llangefni ar Ynys Môn.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y cerddwr a char Ford Fusion ar y B4422 yn Rhostrehwfa am tua 01:13.

Cafodd y cerddwr ei gludo mewn ambiwlans awyr i ysbyty yn Stoke ar ôl derbyn anafiadau difrifol medd y llu.

Dywedodd y Sarjant Daniel Rees: “Fe ymatebodd y gwasanaethau brys i adroddiadau o wrthdrawiad rhwng cerddwr a char Ford Fusion ar y B4422 Rhostrehwfa ger Llangefni ar Ynys Môn. 

“Cafodd y cerddwr ei gludo i Ysbyty Gogledd Cymru cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Stoke mewn ambiwlans awyr ar ôl cael anafiadau difrifol.

“Rydym yn apelio am unrhyw dystion i’r gwrthdrawiad i ddod ymlaen. Hoffem hefyd siarad ag unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd y B4422 Rhostrehwfa o gwmpas yr amser hwn ac a allai fod wedi gweld cerddwr neu sydd â lluniau camera cerbyd, neu drigolion lleol a allai fod â lluniau teledu cylch cyfyng i gysylltu â ni.”

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio cyfeirnod: Q162262.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.