Plaid Cymru'n colli hen sedd Llinos Medi AS, cyn-arweinydd Cyngor Môn
Mae Plaid Cymru wedi colli sedd cyngor a adawyd yn wag gan AS Ynys Môn Llinos Medi.
Cafodd Kenneth Pritchard Hughes ei ethol fel cynrychiolydd newydd Cyngor Ynys Môn ar gyfer ward Talybolion yn dilyn is-etholiad i lenwi’r sedd wag gan gyn arweinydd y cyngor.
Daeth Ms Medi yn AS newydd Ynys Môn ym mis Gorffennaf. Yn dilyn hyn, ymddiswyddodd o'i rôl ar Gyngor Ynys Môn.
Ddydd Iau, enillodd y Cynghorydd Pritchard – sydd wedi gwasanaethu ar yr awdurdod lleol o’r blaen – y bleidlais gyda 678 o bleidleisiau.
Daeth ymgeisydd Plaid Cymru Dafydd Arthur Williams yn ail gyda 518 o bleidleisiau.
Roedd y Ceidwadwr David Michael Evans yn drydydd gyda 72 o bleidleisiau a Tomos Iwan Barlow, o'r Blaid Werdd Gymreig, yn bedwerydd gyda 46 pleidlais.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, arweinydd Grŵp yr Annibynwyr: “Cynhaliodd ymgyrch yn canolbwyntio ar y gymuned ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio eto gyda’r Cynghorydd Ken Hughes.”
Mae ward Talybolion yn cynrychioli gogledd orllewin Ynys Môn, gan gynnwys pentrefi Llannerchymedd, Rhosgoch, Llanddeusant a Llanfaethlu.