Degau wedi marw ar ôl i dai ddymchwel mewn llifogydd yn yr Almaen

Degau wedi marw ar ôl i dai ddymchwel mewn llifogydd yn yr Almaen

The Guardian

Mae degau o bobl wedi marw ac mae dros 70 ar goll ar ôl i chwe thŷ ddymchwel wedi i law trwm achosi llifogydd yng ngorllewin yr Almaen.

Yn ôl adroddiadau gan y darlledwr SWR yn y wlad, fe gwympodd yr adeiladau nos Fercher yn nhalaith Rhineland-Palatinate.

Mae tua 25 o gartrefi eraill mewn peryg o ddymchwel yn ardal Schuld bei Adenau yn rhanbarth Eiffel.

Fe wnaeth dau ymladdwr tân foddi ac fe gafodd y fyddin eu galw i helpu pobl oedd mewn trafferthion ddydd Mercher.

Cafodd y tywydd eithafol ei achosi yn sgil gwasgedd isel yn symud yn araf, gan achosi llifogydd "unwaith mewn oes", meddai The Guardian.

Mae rhan o Wlad Belg hefyd wedi dioddef llifogydd yn ystod y 24 awr diwethaf.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: DPA