Marwolaeth Wrecsam: Cyhuddo dyn o lofruddio

Mae dyn ifanc wedi ei gyhuddo yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug o drywanu dyn arall i farwolaeth.
Clywodd y llys fod Mark Harley Jones, 18 oed o Wrecsam, wedi ei gyhuddo o lofruddio Kyle Walley, 19 oed, ar nos Sul 11 Gorffennaf.
Digwyddodd yr ymosodiad honedig yng nghartref Mr Walley yn Rhosymedre, ger Wrecsam.
Ni chafodd cais am fechnïaeth ei wneud ar ran y diffynnydd, meddai North Wales Live.
Bydd yr achos yn cael ei gyflwyno i Lys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener.
Darllenwch y stori’n llawn yma.