Newyddion S4C

Lee Waters i adael y Senedd adeg yr etholiad nesaf

24/10/2024
Lee Waters

Mae’r gwleidydd fu’n gyfrifol am gyflwyno'r gyfraith 20mya wedi dweud y bydd yn gadael y Senedd adeg yr etholiad nesaf.

Mae Lee Waters yn Aelod o’r Senedd dros Lanelli ar hyn o bryd, ac roedd yn ddirprwy weinidog dros newid hinsawdd gyda chyfrifoldeb dros drafnidiaeth yn ystod cyfnod Mark Drakeford yn Brif Weinidog.

Wrth siarad gyda podlediad Hiraeth nos Iau dywedodd Lee Waters ei fod yn bwriadu rhoi’r gorau iddi adeg etholiad nesaf y Senedd ym mis Mai 2026.

“Rydw i wedi bod mewn gwleidyddiaeth am 10 mlynedd, ac mae 10 mlynedd yn ddigon hir,” meddai wrth recordio’r podlediad yn Porter’s yng Nghaerdydd.

Cafodd y polisi 20mya ei gyflwyno ym mis Medi’r llynedd, gyda’r addewid y byddai terfynau cyflymder is yn arwain at lai o wrthdrawiadau a phobl yn cael eu hanafu.

Mae’r ffigyrau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu gostyngiadau mewn gwrthdrawiadau ac anafiadau o 24% yr un rhwng Ebrill a Mehefin eleni, o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Ond roedd 'na ymateb chwyrn i'r newid gyda deisebau a phrotestiadau, ac mae’r Prif Weinidog presennol, Eluned Morgan, wedi dweud ei fod wedi creu “problem i’r llywodraeth”.

Cafodd Lee Waters ei ethol i’r Senedd yn 2016 gan olynu Keith Davies yn AS Llanelli.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.