Cynnig arian i ddod o hyd i ddyn wedi ymosodiad yn Rhydaman
Mae elusen wedi cynnig gwobr o £2,500 i ddod o hyd i ddyn sy'n cael ei amau o dreisio menyw fregus yn Sir Gaerfyrddin.
Yn ôl Crimestoppers, cafodd y wraig ei thargedu arlein gyntaf gan Donathon Rosemin. Wedyn fe deithiodd i'w chartref yn Rhydaman ar Mai 10 2023 a dweud wrthi ei fod am aros yno am gwpwl o ddyddiau. Yn ystod yr amser yma, cafodd y fenyw ei threisio.
Mae gan Rosamin, sydd hefyd yn cael ei adnabod dan lysenw "Don Ragga" gysylltiadau gyda De Cymru a Llundain.
Dywedodd Hayley Fry, rheolwr Cymreig Crimestoppers; "Roedd hon yn drosedd ddychrynllyd ac yn brofiad ofnadwy i'r dioddefwr. Rydym yn annog unrhyw un gyda gwybodaeth am ble mae Rosamin, i ddod ymlaen a siarad gyda'n elusen 100% yn ddienw.
"Mae hyn yn golygu nad oes rhaid cael cysylltiad gyda'r heddlu, nac ychwaith ymddangos yn y llys, na gwneud datganiad fel tyst."
Ychwanegodd Ms Fry: "Mae'n rhaid bod rhywun yn gwybod lle mae Rosamin."