Newyddion S4C

Babi yn cael ei eni ar ôl i'w fam ddisgyn i farwolaeth o floc o fflatiau

23/10/2024
shakespeare towers leeds.png

Mae babi a gafodd ei eni wedi i'w fam ddisgyn i farwolaeth o floc o fflatiau yn derbyn "gofal critigol" yn ôl yr heddlu.

Roedd y ddynes yng nghyfnod olaf ei beichiogrwydd pan ddisgynnodd o'r bloc o fflatiau yn ardal Burmantofts o Leeds am tua 10:25 ddydd Mawrth.

Fe gafodd y plentyn ei eni yn ddiweddarach yn yr ysbyty. 

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gorllewin Sir Efrog nad oedd marwolaeth y ddynes, oedd yn ei 30au, yn cael ei thrin fel un amheus.

Bu farw yn y fan a'r lle ac mae'r crwner wedi cael gwybod.

Dywedodd y cynghorydd lleol Luke Farley fod yr ardal yn llawn teuluoedd ifanc a bod y bloc o fflatiau wedi cael ei adnewyddu bedair neu bum mlynedd yn ôl.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.