'Un o fawrion y Llan': Teyrngedau i Lywydd clwb pêl-droed ym Meirionnydd
'Un o fawrion y Llan': Teyrngedau i Lywydd clwb pêl-droed ym Meirionnydd
Mae teyrngedau wedi’u rhoi i “ŵr bonheddig hawddgar ac annwyl” yn dilyn marwolaeth un o hoelion wyth clwb pêl-droed ym Meirionnydd.
Roedd John Manzini yn Llywydd Clwb Pêl-droed Llanuwchllyn.
Ag yntau wedi’i ddisgrifio fel “un o fawrion y Llan,” bu farw ychydig cyn “un o’r gemau mwyaf yn hanes” ei glwb.
Ddydd Sadwrn, llwyddodd Llanuwchllyn i guro'r Drenewydd yng Nghwpan Cymru JD - tîm sydd ddwy gynghrair yn uwch na nhw yn uwch gynghair Cymru.
Daeth y fuddugoliaeth 5-3 wedi ciciau o'r smotyn.
Ond chwerw felys oedd y dathliadau yn sgil marwolaeth llywydd y clwb.
Dywedodd Iwan Arthur Jones sy'n aelod o bwyllgor Clwb Pêl-droed Llanuwchllyn: "Heb os, gem fwyaf yn hanes y clwb a'r canlyniad mwyaf yn hanes y clwb, ‘sdim byd i ddeud deud y gwir. Oedd hi’n ddiwrnod i’w gofio, diwrnod arbennig.
"A dwi’n meddwl, fwy neu lai Llan oedd y tim gorau ‘sa ti’n sbio ar y gem i gyd ‘llu. Mae jyst yn gynnwrf mawr ‘wan i weld pwy gewn ni yn y rownd nesa.
"Mae fel ‘sa rhai pethau i fod weithiau a yn bendant doedd dim teyrnged gwell i’r hen John annwyl na’ bo’ ni wedi ennill."
Ychwanegodd cyfnither John Manzini, Haf Llewelyn ei fod yn berson hael: "Unrhyw gymwynas mi fysa’ John yna yn gwneud hi. Ac wedyn, wrth gwrs, mi oedd Clwb Pel-droed Llanuwchlyn yn ganolbwynt mewn ffordd i’w fywyd o.
"Oedd o’n ffyddlon iawn. Ac mi fysa’ fo wedi bod wrth ei fodd efo’r canlyniad dydd Sadwrn. Mi wnaeth y clwb, wrth gwrs, roi teyrnged hyfryd iddo fo, a mi fysa’ fo wedi bod yn dathlu.
"Felly, mi roedd hi’n fuddugoliaeth chwerw-felys."
Mewn datganiad, dywedodd Clwb Pêl-droed Llanuwchllyn: “Mae’n loes calon gan y clwb orfod cofnodi a thalu teyrnged i un o fawrion y Llan, John Manzini.
“Gwr bonheddig, hawddgar ac annwyl, oedd yn byw i Glwb Pêl-droed Llanuwchllyn, i’w annwyl Glwb Pêl-droed Lerpwl ac i bêl-droed yn gyffredinol.
“John oedd Llywydd presennol y clwb ac yn aelod gweithgar iawn o’r Pwyllgor Rheoli dros y blynyddoedd.
“Mae pawb yn y clwb yn meddwl am Rhian, Aranwen, Alwyn, a’r holl ffrindiau a chysylltiadau yn eu colled sydyn.
“Cwsg mewn hedd John.”