Newyddion S4C

Teyrnged teulu i ddynes ar ôl marwolaeth 'heb esboniad' yn Sir Gâr

Mary Lewis

Mae teulu dynes fu farw mewn amgylchiadau sydd "heb esboniad" yn Sir Gâr wedi rhoi teyrnged iddi.

Mae’r heddlu'n cynnal ymchwiliad wedi i Mary Lewis, oedd yn 47 oed, gael ei darganfod yn farw yn ei chartref ym nhref Talacharn ddydd Gwener.

Dywedodd ei theulu: “Hi oedd ein mam a’n merch gariadus a doniol a oedd yn goleuo bob ystafell. 

"Roedd nifer yn nabod Mary yn Nhalacharn a Chaerfyrddin a bydd colled fawr ar ei hôl gan bawb.”

Fe gafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i’r cartref tua 11.20 fore Gwener yn dilyn pryderon am ei lles. 

Dywedodd y llu bod menyw wedi marw yn ei chartref, a'i bod yn trin ei marwolaeth fel un "heb esboniad." 

Mae'r heddlu wedi cysylltu â'i pherthnasau agosaf gan ychwanegu eu bod yn meddwl am y teulu ar yr adeg hon. 

Mae’r crwner wedi cael gwybod am y farwolaeth.  

Llun: Wikipedia

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.