Newyddion S4C

‘Gwastraff arian’: Ymchwiliad i adolygiad eBay negyddol gan wleidydd

18/10/2024
Janet Finch-Saunders.png

Mae gwleidydd wedi cwyno am “wastraff arian” wedi i gomisiynydd safonau'r Senedd ymchwilio i adolygiad negyddol ganddi ar wefan eBay.

Cyhoeddodd Comisiynydd Safonau'r Senedd, Douglas Bain, ei adroddiad ddydd Iau, ond nid oedd yn enwi’r gwleidydd dan sylw.

Ond mae’r AS Ceidwadol Janet Finch-Saunders bellach wedi ymateb i wefan Nation.Cymru yn dweud mai hi adawodd yr adolygiad a bod yr ymchwiliad i’r mater wedi bod yn “wastraff arian”.

Roedd wedi prynu dau wydr sieri oddi ar eBay am £9.99.

Ond ar ôl eu derbyn gadawodd adolygiad yn cwyno nad oedden nhw’n debyg i ddisgrifiad y gwerthwyr, a’u bod nhw’n llai na’r disgwyl.

Er mwyn ceisio gwneud yn iawn am hynny gadawodd y gwerthwr ail bâr o wydrau yn swyddfa’r Aelod o’r Senedd ond ni wnaeth yr aelod eu derbyn.

Ysgrifennodd y gwerthwr at y comisiynydd yn dweud bod y gwleidydd wedi cyhoeddi gwybodaeth nad oedd yn wir ac a oedd wedi cwestiynu eu henw da.

 “Ar yr olwg gyntaf fe allai’r holl fater yma ymddangos yn ddibwys,” meddai Douglas Bain.

“Pam y dylai anghytundeb rhwng gwerthwr a phrynwr dau wydr sy’n costio £9.99 fod yn destun cwyn am aelod o’r Senedd?

“Fodd bynnag, mae’r mater sy’n peri pryder i’r achwynydd sy’n credu y gallai ei henw da fel gwerthwr eBay gael ei niweidio gan yr adolygiad y mae hi’n teimlo sydd yn anwiredd.”

‘Sawl mis’

Dywedodd Douglas Bain yn ei adroddiad bod arbenigwr allanol wedi ei gomisiynu i gael golwg ar y gwydrau, ond bod un ohonyn nhw eisoes wedi torri erbyn hynny.

Daeth i’r casgliad wrth edrych ar yr ail wydr nad oedd yn ffug.

Penderfynodd Douglas Bain ar sail hynny nad oedd yr aelod o’r Senedd wedi bwriadu cyhoeddi adolygiad oedd yn “anwiredd” ond ei fod o bosib yn “anghywir”.

Wrth ymateb i’r adroddiad dywedodd Ms Finch Saunders fod angen “ail-ystyried” pa mor rhesymol oedd ystyried rhai cwynion yn erbyn aelodau o’r Senedd. 

“Mae’r adroddiad wedi canfod o’m plaid,” meddai wrth wefan Nation.Cymru. “Fodd bynnag, mae wedi cymryd sawl mis i’w datrys, gyda’r broses yn gwastraffu arian trethdalwyr.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.